Yn ôl i brif wefan CBCDC

Ysgrifennu Newydd: Clare Dunne, a raddiodd o’r Coleg, yng Ngŵyl Sundance

24 Ionawr 2020

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Mae Clare, a raddiodd mewn actio yn mynd i Sundance ar gyfer perfformiad premiere ei ffilm nodwedd gyntaf.

Mae Herself, a gyd-ysgrifennodd ac y mae’n serennu ynddi, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Sundance ar 24 Ionawr.

Cyfarwyddir y ffilm – drama gyfoes wedi’i lleoli yn Nulyn yn ystod ei argyfwng tai presennol – gan Phyllida Lloyd a ddywedodd, unwaith ei bod wedi ymuno yn y prosiect y byddai ond yn cyfarwyddo ar yr amod y bod Clare yn chwarae’r brif ran. Yn ymuno â Clare ar y sgrin y mae Harriet Walter a Conleth Hill ymhlith eraill, yn cynnwys rhai o’i ffrindiau gorau mewn rolau llai.
Cyd-ddatbygwyd Herself, a gyd-ysgrifennodd gyda Malcolm Campbell, gan Element Pictures a chwmni Sharon Horgan Merman.

Mae Clare yn ymuno a chyd-raddedigion actio 2009 Tom Cullen ac Alexander Vlahos, sydd wedi creu ffilmiau ochr yn ochr â’u gyrfaoedd actio. Enwebwyd Tom am wobr Bafta Cymru llynedd am ei waith cyfarwyddo cyntaf ar Pink Wall, ac mae Alex newydd ryddhau ei ffilm fer gyntaf Lola, a ysgrifennwyd gan un arall o raddedigion CBCDC Lewis Reeves.

Mae Clare, a raddiodd yn 2009, yn disgrifio ei chyfnod yng Ngholeg Brenhinol Cymru fel un a ‘newidiodd ei bywyd’.

Ymhlith pethau eraill, mae’n diolch i Asesiadau Diwedd Blwyddyn y Coleg am roi’r profiad cyntaf iddi o ysgrifennu a mynd a’r cynhyrchiad oddi ar y dudalen ac i’r llwyfan.
Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn mae’r asesiadau yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr actio greu, cyfarwyddo a chynhyrchu eu perfformiad 30 munud eu hunain, gan weithio gyda rheolwyr llwyfan, technegwyr a chynllunwyr sy’n fyfyrwyr.

Clare gyda’r cyd-ddisgybl Tom Cullen yng nghynhyrchiad y Coleg yn 2009 o Thoroughly Modern Millie

“Dydw i ddim yn siŵr a fyddwn i wedi dechrau ysgrifennu mor gynnar yn fy ngyrfa pe na bai’r Coleg wedi agor fy meddwl fel ysgrifennwr. Yr Asesiadau Diwedd Blwyddyn oedd un o’r pethau gorau un am y Coleg, ynghyd a’r ysgrifenwyr a’r mentoriaid oedd yn cael eu gwahodd i mewn,” meddai.

“Mae’n rhoi’r siawns i chi greu eich peth eich hun: briff i greu unrhyw beth rydych chi’n credu sy’n bosibl ar y llwyfan, gan gydweithredu â phawb oherwydd eu bod nhw i gyd yno yn astudio yn yr un lle.

Mae mynd ar siwrnai nes cyrraedd cynhyrchiad technegol llawn – yn un o’r pethau mwyaf brawychus a chyffrous yn y byd.

Ond mae mor fuddiol i’ch meddwl creadigol: i fod yn agored i bethau eraill a chanfod yr hyder yn eich hun, dod o hyd i’r dyfnder cudd hwnnw, yn ogystal ag agweddau eraill ar eich dawn greadigol.”

Mae’n gwneud i chi ofyn i’ch hun beth sy’n bwysig i chi ynglŷn ag adrodd stori, ac yna a oedd yn llwyddiant neu’n fethiant neu rywbeth yn y canol. Gallwch ddweud, ‘fi wnaeth e, fe wnes i rywbeth’ “

Ar ôl gadael y Coleg defnyddiodd Clare yr arian a enillodd o’i Gwobr Actio BA i ddatblygu ei hasesiad diwedd ail flwyddyn yn gynhyrchiad a berfformiodd yn Nulyn.

“Dysgodd y profiad hwnnw fwy i mi am fy hun o ran yr elfen artistig. Dysgais am ffilm a golygu oherwydd ei fod yn cynnwys fideo cerddoriaeth. Tyfodd yr hadau hyn i gyd wrth i mi weithio ar fy ngyrfa…

“Roedd y Coleg yn unigryw. Nid torri pobl i lawr oedd y nod, ond eu ehangu – ein hyfforddi i chwilio am bwy ydym ni, beth sy’n gwneud i ni weithio – a rhoi’r hirhoedledd i ni fel perfformwyr a chrewyr.

Yn y Coleg mae ganddynt ddiddordeb hirdymor ynoch, ac maent yn gwybod y byddwch yn wynebu heriau, nid dim ond fel actor, ond fel artist, a pherson.
Mae rhai o’r pethau ymarferol rydych yn eu dysgu yma yn sicr yn achub eich croen pan fyddwch wedi llwyr ymlâdd ar ôl gweithio am oriau hir, a bod angen i chi gadw eich llais yn fyw neu’ch corff mewn un darn.

Mae triciau ymarfer techneg llais a ddysgwyd i mi bryd hynny yn rhai rydw i’n dal i’w gwneud bob tro y byddaf yn perfformio yn y theatr”

Ymhlith ei nifer o rolau llwyfan mae Clare wedi chwarae rhan y Tywysog Hal yn fersiwn menywod yn unig Theatr Donmar o Henry IV gan Shakespeare, a gyfarwyddwyd gan Phyllida Lloyd.
Aeth yn syth o’r Coleg i chwarae’r prif gymeriad benywaidd yn Playboy of the Western World yng nghynhyrchiad a ganmolwyd yn fawr gan gwmni theatr Druid. Llwyddodd i gael y rôl wedi iddi gael ei gweld gan y cyfarwyddwr castio yn chwarae rhan y prif gymeriad yng nghynhyrchiad y Coleg o Thoroughly Modern Mille.

Sioe un fenyw Clare, ‘Sure Look It, Fuck It’, Llun: This Pop Baby

“Pegeen oedd y rôl ddelfrydol i mi, gyda’r cwmni theatr delfrydol, a llwyddais i wneud hynny ar unwaith, yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y Coleg. Roeddwn i’n ffodus, ac yn gwybod hynny. Y chwe mis heb waith yn syth wedi hynny a ddysgodd lawer i mi. Dyna pryd y rhoddais fy Asesiad Diwedd Blwyddyn ar waith yn gynhyrchiad llawn. A dyna rydw i’n ei feddwl am Goleg Brenhinol Cymru. Mae’n eich paratoi ar gyfer yr uchafbwyntiau a’r amseroedd tawel!” meddai.

 

Bydd Herself yn cael ei ryddhau yn y DU ac Iwerddon yn ddiweddarach eleni, yn dilyn ei bremiere byd ar 24 Ionawr yn Sundance, a’i bremiere yn Ewrop yng Ngŵyl Ffilmiau Dulyn ar 5 Mawrth.
Cewch wybod rhagor am ein cyrsiau Actio yma.

Cyd-ysgrifenwyd Herself gyda Malcolm Campbell ac fe’i cynhyrchwyd gan Ed Guiney, a enwebwyd am Wobr Academy, a Rory Gilmartin ar gyfer Element, ynghyd â’r actor, ysgrifennwr, cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac enillydd gwobr BAFTA Sharon Horgan.
Datblygwyd y ffilm gyda BBC Films a Screen Ireland a chefnogwyd y cynhyrchiad gan Screen Ireland, BBC Films, a’r BFI (gydag arian y Loteri Genedlaethol).