Yn ystod tymor y Gwanwyn daeth cerddor arall o’r radd flaenaf i’r Coleg wrth i Nicholas Daniel ddilyn ei berfformiad awr ginio gyda Phedwarawd Obo Britten gyda dosbarth meistr ar gyfer ein myfyrwyr chwythbrennau.
Chwaraeodd Nicholas a’n myfyrwyr obo ystod o repertoire yn amrywio o Sonata Dutilleux, Concerto Martinu a Choncerto yn D fwyaf Mozart.
Roedd ein myfyrwyr wrth eu bodd gyda’i angerdd, ei natur gadarnhaol a’i wybodaeth dechnegol.
“Roedd hi’n fraint cael gweld cyfuniad rhyfeddol Nick o arbenigedd, ysbrydoliaeth a sgiliau cyfathrebu dawnus”, meddai’r Pennaeth Perfformio Chwythbrennau dros dro Liz May
“Mae Nick yn llawn anogaeth ac mor gadarnhaol, ac mae ganddo arbenigedd dechnegol amhrisiadwy ac mae’n dadansoddi’n fanwl iawn.”
“Roedd ei ddawn gerddorol reddfol a gwybodaeth ysgolheigaidd o’r sgoriau yr ymdriniwyd â hwy yn ddadlennol ac o gymorth enfawr i’r chwaraewyr obo ifanc yn y dosbarth.”
“Roedd yn brynhawn oedd â chymaint i’n hysbrydoli ni gyd fel cerddorion.”
Nicholas yw un o brif chwaraewyr obo ei genhedlaeth. Enillodd wobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ym 1980 ac wedi hynny mae wedi cael gyrfa ryfeddol fel unawdydd, arweinydd, cerddor siambr a cherddor cerddorfaol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau Chwythbrennau yma.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook