Yn ôl i brif wefan CBCDC

Beethoven 250: Cwrdd ag Arweinwyr y Gerddorfa

10 Chwefror 2020

Ffeiliwyd o dan:

Arwain
Cerddoriaeth

Gyda dros 1200 o blant ysgol yn eistedd yn Neuadd Dewi Sant yn aros i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth glasurol, roedd tri o’n myfyrwyr rhyngwladol Arwain Cerddorfaol yn fwy nag abl ar gyfer y Gwaith.

Arweiniodd y myfyrwyr Kay Salomon, sy’n hanu’r wreiddiol o Ffrainc, Yi Yun Soo o Malaysia, a Constança Simas o Bortiwgal, Gerddorfa Symffoni CBCDC yn y dathliad rhyngweithiol o ben-blwydd 250 mlynedd yr Archarwr Cerddorol Beethoven.

https://www.instagram.com/p/B3Mg0eWAFWn/?utm_source=ig_embed

Yn llywyddu’r digwyddiad cyfan oedd yr animateur a’r baswnydd Ruth Rosales.

Ruth Rosales (i’r dde) yn llifo coesau piano Beethoven i ffwrdd.

Cawsom gyfle i gael gair gyda Ruth ar ôl bore llawn yn gweithio gyda’r Gerddorfa Symffoni ar y sgript ryngweithiol, a oedd yn cynnwys iaith arwyddion ac ychydig o actio, “Mae pawb wedi bod yn wych felly rydw i’n cael amser wrth fy modd.”

Gwnaed argraff ar Ruth gan allu’r arweinwyr i addasu i’w sgript sydd, fel y dywed, yn wahanol iawn i gyngerdd Beethoven traddodiadol.

“Mae pawb wedi bod yn hynod hyblyg gan ei bod yn rhaglen mor amrywiol: maent yn neidio o John Williams i Beethoven i rywbeth cwbl fodern nad ydynt wedi’i glywed o’r blaen.”

Ruth Rosales mewn cymeriad llawn, yn perfformio fel Beethoven.

Cytunodd tri chyfansoddwr eleni eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan lwyddiant Tianyi Lu, a raddiodd yn ddiweddar o’r Coleg ac a arweiniodd Orchestradventures! blaenorol.

Hi nawr yw Arweinydd Preswyl benywaidd cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru.

Dywed Kay mai cyfarfod Tianyi ym Manceinion ychydig flynyddoedd yn ôl a wnaeth iddi wneud cais i astudio yma yn CBCDC.

“Roeddwn i’n gwybod ei bod yn dda, ac roedd hi’n canmol ei hathrawon yn fawr, a dyma pam fy mod yma”.

Gyda Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn agosáu, maent i gyd yn ymwybodol eu bod yn rhan o genhedlaeth newydd o fenywod sydd ar flaen y gad ym maes arwain.

“Gan ei fod yn broffesiwn a ddominyddir gan ddynion, mae menywod yn dueddol o gael eu cymharu’n fawr gyda sut mae dynion yn arwain, ac yn aml mae’n rhaid i ni brofi ein hunain. Fodd bynnag, mae’r Coleg yn amgylchedd arbennig o gadarnhaol a chawn ein trin yn gydradd, ni chewch eich barnu, boed eich bod yn fenyw neu beidio”, fel y dywed Kay.

Kay Salomon yn rhannu gwên fawr ar y podiwm.

“Rwy’n teimlo bod y gefnogaeth i arweinwyr benywaidd y dyddiau hyn yn gwella trwy’r amser”, cytunodd Constança. “Gwyddom er y gall pawb wneud cais ar gyfer y cyrsiau a gweithdai, ond mae rhai mannau sy’n dal i gredu nad yw arweinwyr benywaidd yn ddigon cryf. Felly mae’n braf iawn cael y gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar fenywod er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r stereoteip hwn yn golygu dim.”

Constança Simas yn ystod ei harweiniad o’r gerddorfa.

Y gair ddefnyddiodd Yi Yun i ddisgrifio’r profiad cyfan o arwain cyngerdd Beethoven 250 oedd “trawsnewidiol”, ac roedd am gydnabod cefnogaeth y Coleg ac yn llawn canmoliaeth i’w mentor David Jones.

“Mae’n gwybod yn union beth sydd ei angen ar ei fyfyrwyr ac mae’n gweithio gyda phawb, waeth beth fo’u cefndir cerddorol. Bydd yn gweithio gyda gwahanol lefelau arbenigedd heb wahaniaethu.”

Arweinwyr Constança Simas, Kay Salomon, David Jones, ac Yi Yun Soo.

Ni ddiflannodd angerdd Beethoven am gerddoriaeth ac ni ddaeth ei ragoriaeth i ben pan gollodd ei glyw ac fel y dywedodd Yi Yun, dylai plant gael eu hannog i ddilyn eu cariad at gerddoriaeth er gwaethaf unrhyw rwystrau y gallai fod ganddynt.

Nod cyngerdd Beethoven oedd ysbrydoli plant o bob cefndir a gallu drwy ganolbwyntio ar stori Beethoven a’i gerddoriaeth.

Roedd llawer o’r plant yn mynychu cyngerdd clasurol am y tro cyntaf, ac felly fe’i crëwyd i fod mor hygyrch a chynhwysol â phosibl i roi cyfle gwirioneddol iddynt ymgysylltu â’r gerddoriaeth.

Roedd y cyngerdd hefyd yn gyfle i’r holl fyfyrwyr ymarfer y sgiliau yr oeddent wedi’u dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’u defnyddio ar gyfer perfformiad proffesiynol o weithiau clasurol a modern.

Ffotograffiaeth: Kirsten McTernan

Storïau Cysylltiedig

http://blog.rwcmd.ac.uk/2019/08/25/tianyi-lu-is-wnos-first-female-conductor-in-residence/

http://blog.rwcmd.ac.uk/2019/02/10/celebrating-an-awfully-big-orchestradventure/