Yn ôl i brif wefan CBCDC

Rheolaeth yn y Celfyddydau: Ffocws ar Gyflogadwyedd

19 Chwefror 2020

Ffeiliwyd o dan:

Rheolaeth yn y Celfyddydau

Gyda chyfradd cyflogaeth 100% ar gyfer myfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau ar ôl graddio, mae ein myfyrwyr yn mynd mewn i lawer o yrfaeoedd gwahanol a chyffrous yn y diwydiant.

Fe aeth graddedigion llynedd ymlaen i swyddi a oedd yn amrywio o Reolwr Gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ i Gydlynydd Artistig a Cherddoriaeth Opera San Jose, California, ac o Gynorthwyydd Cynhyrchu yn Sonia Friedman Productions i Gynorthwyydd Castio gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Gall myfyrwyr weithio gyda thîm marchnata gynulleidfaoedd, yn hyrwyddo cynyrchiadau Cwmni Richard Burton. Llun o ‘Tartuffe’ gan Mark Douet

Y Cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau

“Mae’r cwrs hwn yn unigryw oherwydd ei bwyslais ar y galwedigaethol,” eglura Pennaeth Rheolaeth yn y Celfyddydau, Karen Pimbley.

“Mae’n golygu ein bod yn datblygu graddedigion gwydn a pharod am waith sy’n gallu llwyddo mewn diwydiant sy’n symud yn gyflym ac yn newid yn gyson.

Mae cyflogaeth wrth wraidd y rhaglen, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi cael cyfradd cyflogaeth 100% ar gyfer myfyrwyr yn syth wedi graddio, ers 2013.

Rydym yn gweithio gyda dros ddeg ar hugain o sefydliadau partner yn ogystal â’n canolfan gelfyddydau a staff yn y Coleg er mwyn cynnig cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, wedi’i fentora yn seiliedig ar waith sy’n cydredeg â hyfforddiant mewn amgylchedd conservatoire unigryw.”

Mae’r cwrs yn hyblyg iawn ac mae llawer o wahanol lwybrau drwy’r hyfforddiant, o astudio’n llawn amser dros un flwyddyn i astudio’n rhan amser sydd fel arfer yn digwydd dros ddwy flynedd, ond gellir ei ymestyn dros hyd at bum mlynedd.

 

Cynhyrchiad Cwmni Richard Burton o ‘Wonder of the World’. Llun: Kirsten McTernan

Gall myfyrwyr sydd eisoes â phrofiad gweithio yn y celfyddydau ddefnyddio hyn fel credydau er mwyn lleihau eu taith ddysgu.

Daeth Sara Treble-Parry i astudio rheolaeth yn y celfyddydau yn y Coleg yn syth wedi gorffen ei gradd celfyddyd gain yng Ngholeg Metropolitan Caerdydd.

“Roeddwn i’n gwybod nad oedd fy ngradd wreiddiol yn fy ngwneud yn arbennig o gyflogadwy, ac roeddwn eisiau mynd â’m gyrfa ar lwybr carlam. Roeddwn i’n gwybod am y gyfradd cyflogaeth ryfeddol yn y Coleg ac roeddwn eisiau crefft arall.”

Wedi astudio yma aeth Daisy Cooksley ymlaen i weithio fel Cynorthwyydd Cerddoriaeth Graddedig cyn sylweddoli ei bod eisiau cryfhau ei sgiliau a meddwl am y camau nesaf yn ei gyrfa.

“Roeddwn i wrth fy modd yn trefnu a rheoli’r ensembles yn fy swydd ac felly penderfynais ganolbwyntio ar hynny drwy ddychwelyd ac astudio rheolaeth yn y celfyddydau yma. Rydw i wirioneddol eisiau mynd i faes rheoli cerddorfaol felly mae’n teimlo mai’r peth iawn yw dychwelyd yma. Mae’r awyrgylch yn rhyfeddol ac mae’n teimlo fel petawn erioed wedi gadael!”

Dyma Daisy yn siarad am gwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau mewn fideo a waned gan Sara Treble-Parry yn ystod eu lleoliad marchnata.

Mae Sofi Nowell yn astudio’n rhan amser. Mae’n gynhyrchydd annibynnol prosiectau celfyddydau gweledol a cherddoriaeth arbrofol, gan weithio fel rheolwr teithiau ac artistiaid yn y diwydiant cerddoriaeth.

Gall myfyrwyr weithio ar berfformiadau opera’r Coleg, er engraifft, Albert Herring. Llun: Mark Douet

Oherwydd ei bod wedi gweithio’n flaenorol mewn ysgol syrcas, wedi bod yn ddawnswraig ac wedi gweithio ym maes celfyddyd perfformio roedd ganddi eisoes lawer o brofiad o hyrwyddo’r celfyddydau. Ymunodd â’r cwrs am ei bod eisiau symud ei gyrfa ymlaen a dysgu am godi arian ymhlith pethau eraill, “Mae’r cwrs hwn wedi newid fy mywyd, gan agor drysau nad oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli!”

Y Cwrs

Mae gweithio mewn partneriaeth agos gyda’r diwydiant yn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael profiad sy’n gyfredol a pherthnasol.

Gall gwaith lleoliad gynnwys gweithio ar ŵyl 3 diwrnod y Coleg o gerddoriaeth newydd a gwreiddiol, Awyrgylch

“Bydd y myfyrwyr yn rhwydweithio o’r diwrnod cyntaf ac am fod eu profiad yn CBCDC mor ymdrwythol, maent yn gadael gyda llu o sgiliau ymarferol a phrofiad perthnasol sydd eu hangen ar gyflogwyr,” meddai Karen.

Ychwanega Sara, “Gan mai dim ond blwyddyn yw’r cwrs, mae’n rhaid iddo wasgu popeth i mewn. Yn y tymor cyntaf cawn ddarlithoedd ac asesiadau, yn cynnwys prosiect grŵp a chyflwyniad lle mae’n rhaid i ni wneud cyflwyniad codi arian ffug i gwmni go iawn (gwnaeth rhywun mor dda llynedd fel iddynt GAEL yr arian ar gyfer y cynhyrchiad!)”

“Rydym yn ymdrin â’r hol agweddau ymarferol o ran beth allech orfod ei wneud yn eich swydd – er enghraifft, mewn sefydliad bach gallai gynnwys unrhyw beth o godi arian, marchnata a churadu, i gynhyrchu, cyllid a rheolaeth gyffredinol.

“Mae gennym ddarlithwyr rhyfeddol. Mwynheais yn fawr ddysgu am seicoleg rheoli gan reolwr marchnata Theatr Newydd Caerdydd. Yn ein darlithoedd rheoli rydym hefyd yn dysgu am bethau fel adeiladu tîm effeithiol, moesegau, llywodraethu da, arwain a gwytnwch yn y sector creadigol a modelau busnes amgen.”

Ychwanega Sofi, “Cefais fy nenu at y cwrs gan y lleoliadau gwaith, yr asesiadau ymarferol a’r siaradwyr o’r diwydiant. Hefyd, gan ei fod yn gonservatoire cerddoriaeth a drama gallaf gydweithio gyda myfyrwyr creadigol eraill.

Mae’r cwrs yn dwyn ynghyd pob math o bobl o wahanol gefndiroedd felly mae gan bob un ohonom wahanol gryfderau a sgiliau sy’n rhywbeth cyffrous iawn.”

Astudiodd Sára Neužilová, sy’n hanu’n wreiddiol o Weriniaeth Tsiec, theatr a ffilm ym Mryste cyn dod i astudio yn y Coleg: “Rydym newydd ddechrau modiwl ariannu ac er syndod fel rhywun sydd ddim yn hoffi siarad am arian, rydw i wrth fy modd gyda’r modiwl! Mae’n ddiddorol dros ben.”

Gall lleoliadau Jazz gynnwys gweithio ar AmserJazzTime, allgymorth a gweithdai. Llun Simon Gough

Y Lleoliadau

Bydd y myfyrwyr yn mynd ar ddau leoliad gwaith proffesiynol: un rhan amser yn nhymor y Gwanwyn ac un llawn amser yn nhymor yr Haf. Mae’r lleoliadau yn rhoi cyfle i ddatblygu a chymhwyso sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol wedi’i fentora.

“Mae lleoliadau cychwynnol yn ein canolfan gelfyddydau yn rhoi cyfle i bobl cael eu traed danynt”, meddai Karen.

“Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu’r unigolyn ar y cam hwn, felly mae gennym gynllun mentora gwych sy’n cydredeg â’r rhaglen lleoliadau. Er enghraifft, os nad oes gan rywun brofiad blaenorol yn y celfyddydau, neu os nad yw’n siŵr pa rolau y mae ganddo ef neu hi ddiddordeb ynddynt, mae’n rhoi’r cyfle iddynt brofi gwahanol bethau mewn amgylchedd diogel.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod y myfyrwyr hynny yn dechrau dod i’r amlwg fel gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau yn ystod tymor y Gwanwyn ac yna trosglwyddo’n llawn i’r diwydiant yn ystod tymor yr Haf”.

Ar hyn o bryd mae Sara ar leoliad y Gwanwyn gyda’r tîm marchnata: “Mae’r lleoliadau mewnol yn digwydd yn rhan amser ochr yn ochr â darlithoedd. Mae’n wych gan fod CBCDC yn ganolfan celfyddydau yn ogystal â choleg felly mae digon o gyfleoedd.

Rydw i’n teimlo ei fod yn fan canol da rhwng gwaith a bod yn fyfyriwr, oherwydd eich bod yn dal i ddod i’r Coleg. Byddwn yn cael sesiynau dysgu gweithredol rheolaidd lle gallwn fyfyrio a thrafod sut mae ein gwaith yn mynd a pha mor ddefnyddiol ydyw. Mae’n ein helpu i benderfynu pa gyfeiriad rydym am fynd iddo yn ein lleoliad terfynol yn y diwydiant ac yn ein gyrfaoedd yn y dyfodol.”

“Rydw i wrth fy modd gyda natur gydweithredol y Coleg gyda myfyrwyr cerddoriaeth a drama yn cymysgu ac yn cydweithio,” meddai Sára, sy’n gweithio fel cynhyrchydd cynorthwyol ar gyfer REPCo (prosiect perfformio menter myfyrwyr yn y Coleg).

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig i’r myfyrwyr fanteisio ar bob cyfle a gynigir gan y Coleg, boed hynny’n gweithio yn y ganolfan gelfyddydau neu fod yn rhan o brosiectau gwahanol fel REPCo, neu hyd yn oed dim ond gweld y sioeau rhyfeddol sydd i’w cael yma! Mae’n debyg na fyddant yn cael cyfle tebyg.”

Gweithiodd Sara ar yr ŵyl menter myfyrwyr, REPCO, a oedd yn cynnwys The Soldier’s Tale, yn y llun uchod

Mae Iain Fraser-Barker ar leoliad rheoli cerddorfaol: “Mae fy nghefndir i mewn perfformio cerddorol ac mae’n wych cael gweld tu ôl i’r llenni drwy reoli cerddorfa gyfan.
Rydw i hefyd wedi gallu defnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu ar y cwrs mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol.”

Gall myfyrwyr Rheolaeth y Celfyddydau weithio ar leoliad rheolaeth cerddorfaol. Gweithiodd Iain ar ddathliad Orchestradventure! o Beethoven 250

Mae lleoliad Sofi wedi golygu gweithio ar brosiectau allgymorth gyda myfyrwyr trydedd flwyddyn ac ysgolion cynradd o fewn yr adran Jazz.

“Mae wedi bod yn brofiad bywiocaol a rhyfeddol,” meddai.

Mae gan y cwrs ystod lawn o bartneriaid y gall y myfyrwyr weithio gyda hwy ar gyfer eu lleoliad estynedig mewn diwydiant yn ystod tymor yr Haf, yn amrywio o gwmnïau teithio bach i sefydliadau cenedlaethol, lleoliadau cynhyrchu a chyflwyno, ac yn cynrychioli bron bopeth yn y genre celfyddydau perfformio.

Gallant gwmpasu ystod eang o gyfleoedd a diddordebau ac yn yn y gorffennol maent wedi bod yng Ngherddorfa’r Hallé, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Gŵyl Caeredin a Jamie Wilson Productions yn y West End.

“Bydd ein partneriaid allanol yn cael deialog cadarnhaol a pharhaus gyda thîm y cwrs er mwyn datblygu cyfleoedd lleoliad addas bob blwyddyn yn ogystal ag ymgysylltu gyda’r cwrs fel ymwelwyr arbenigol” meddai Karen. “Weithiau bydd myfyrwyr yn mynd ar leoliadau ac yna’n aros gyda’r sefydliad.

Mae partneriaid hefyd yn recriwtio’n weithredol o’n cwrs pan fydd cyfleoedd am swyddi yn dod ar gael”.

Gallwch ddysgu rhagor am ein cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yma.

Storïau cysylltiedig

Rheolaeth yn y Celfyddydau: Lára, Rheolwr Gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ