Cawsom rhediad anhygoel o sioe gerdd y tymor, Spring Awakening, a wnaeth cymryd lle, am resymau amlwg, tu ôl i ddrysau caedig yn gynharach yr wythnos yma.
Draw at ein Pennaeth Sioe Gerdd, Vivien Care:
“Moment bendigedig heddi wrth i ein myfyrwyr Sioe Gerdd CBCDC rhedeg eu perfformiad o Spring Awakening yn yr ystafell rihyrsal, wythnos cyn y noson agoriadol yn Theatr y Sherman.
Fe wnaeth y myfyrwyr wych dangos beth rydyn ni’n ei wneud orau yn CBCDC o ran gweithio gyda’n gilydd, ac fe wnaethon nhw rhoi perfformiad eu bywydau i gynulleidfa gefnogol o staff a myfyrwyr eraill, rhai a byddai wedi perfformio gyda ni fel cerddorion wythnos nesaf.
Rhoddodd ein tîm rheoli llwyfan gwych y golau i ni, rhoddodd ein adran gwisgoedd bendigedig y gwisgoedd i ni, ac roedd yr holl beth yn rhyfeddol, ingol a hardd.
Diolch enfawr i ein pobl greadigol bendigedig Rupert Hand, Jamie Neale a Charlie Ingles a wnaeth creu sioe bendigedig y byddwn wastad yn dal gafael ynddi, gyda atgofion arbennig o amser ryfeddol.
Wrth gwrs, rydyn ni’n ofnadwy o drist i beidio perfformio ein rhediad a oedd wedi’i werthu allan wythnos nesaf; ond am nawr, mae’n rhaid i bawb flaenori diogelwch a chadw’n saff. Yn danfon cariad oddi wrthym ni – gwelwn ni chi ar yr ochr arall.”
Huge pride in the cast and team of Spring Awakening @RoyalWelshMAMTs who performed a final run to colleagues this morning, a week before we were due to open, before the postponing the production. Hugely talented, superbly dedicated, and a lovely lovely bunch of people. Til soon. pic.twitter.com/rYzMOlujeG
— Rupert Hands (@Rupert_Hands) March 17, 2020
Fe wnaeth myfyrwr Sioe Gerdd, Erin Spence (a welir yn y ddelwedd), rhoi hyn yn well nag y gallem ni:
“Mae’n peth rhyfedd i fod yn eistedd yn yfed cwpan o de pan ddylswn i fod yn paratoi ar gyfer wythnos tech, hyd yn oed yn fwy rhyfedd fy mod wedi gadael y tŷ heb fy sgript am y tro cyntaf mewn misoedd.
Ddoe, am hanner awr wedi deg y bore, mewn stiwdio ein hunain fel nad oedd y llwyfan yn mynd i fod, fe wnaeth myfyrwyr Sioe Gerdd CBCDC, dosbarth 2020, rhoi perfformiad llyfrnod o Spring Awakening. Roedd gennym ni wythnos arall cyn ddylsen ni wedi agor. Gwisgon ni gwisgoedd doeddwn ni ddim wedi’u gweld yn iawn eto. Doedd y tywod coch a wnaethon ni archebu ddim wedi cyrraedd eto. Roedd yn arw ac yn anodd. Roedd yn fuddugoliaethus.
Dwi wir yn ddiolchgar i bawb a wnaeth ddod, am y lluniau a fideos cyfrinachol dwi ‘di gweld yn popio i fyny, i’r dylunwyr a SMs a’r tîm creadigol am frwydro gyda ni tan y diwedd chwerw. Ond, dros hyn i gyd, dwi’n ddiolchar am fy ffrindiau ar fy nghwrs a wnaeth anadlu gwaith a gwaedu cariad ar gyfer y prosiect yma.
Y penderfyniad gorau wnes i erioed oedd i ddod ar y cwrs yma, hyd yn oed yn gynhwysol o’r wallgofrwydd yma. Mae CBCDC wedi rhoi’r teulu yma i fi, a beth bynnag mae’n cymryd i ddod trwy hyn a’i weld nhw ar yr ochr arall, byddaf yno. Byddaf yno.
Cadwch yn saff. Cadwch yn greadigol. Cadwch yn obeithiol.”
@RoyalWelshMAMTs still in good spirits, so sad not to be able to share our wonderful “Spring Awakening” with the public, but so thankful to have worked with such wonderful creatives @Rupert_Hands , @CJIMusic and @JamieNeale4 Big love and well wishes from #MAMT20 pic.twitter.com/jTe6bhbSe1
— Harriet B (@harrietbowfy) March 16, 2020
https://www.instagram.com/p/B94-jSFHVaq/
Dosbarth 2020 Sioe Gerdd CBCDC
CYFARWYDDWR Rupert Hands
CYFARWYDDWR CERDD Charlie Ingles
COREOGRAFFYDD Jamie Neale
Cynllunydd Set a Gwisg Eve Martin
Cynllunydd Goleuo Danny Vavrecka
Cynllunydd Sain Jamie Holden
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook