Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cosi Fan Tutte: Y Sioe Gêm

25 Mawrth 2020

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

Dyna drueni na chawsom weld y Neuadd Dora Stoutzker wedi’i drawsnewid i stiwdio deledu sioe gêm o’r 1970au!

Yn anffodus, mae cynhyrchiadau Ysgol Opera David Seligman o Cosi Fan Tutte a Miss Havisham’s Wedding wedi, wrth gwrs, cael eu canslo. Er hyn, mae dal gennym ni ddychymyg y dylunydd i rannu gyda chi.

Roedd y graddedig Delyth Evans yn ddylunydd cysylltiol ar gyfer Cosi, ac roedd yn gweithio ar set a ddylunwyd yn wreiddiol gan gymrawd graddedig Gabriella Slade – blwyddyn diwethaf, fe aeth Gabriella ymlaen i ennill enwebiad am wobr Olivier am ei ddyluniadau wisg ar gyfer Six The Musical.

Cafodd Delyth amser wych yn archwilio y byd oren a brown o’r degawd anghofiwyd gan ffasiwn. Rhannodd ei ddyluniadau gyda ni er mwyn i ni ryfeddu ar debygrwydd y Dora i’r Anglia Studios o 1975.

Fe hefyd siaradon ni i gyfarwyddwr Cosi, a Chadeirydd Rhyngwladol Hodge o Gyfarwyddo y Coleg, Martin Constantine, am y daith fe aeth y myfyrwyr arni yn rihyrsals:

Mae’n drueni mawr ni all y perfformiadau digwydd, ond mae’n eglur bod y broses o ymarfer yn rhan mawr o’r brofiad.

“Mae’r broses o ymarfer yn rhan enfawr o’r prosiect opera yn gyffredinol” meddai Martin.
“Wrth gwrs, mae yna profiadau allwch chi ddim ond ennill trwy berfformio’n fyw, ond mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n ddi-stop ac wedi dysgu llawer iawn dros yr wythnosau a misoedd diwethaf.”

Fe wnaeth y cantorion gweithio gyda ein Cyfarwyddwr Artistig o’r Ysgol Opera, John Fisher, am sesiynau hyfforddiant cyn i rihyrsals dechrau, felly, er eu bod nhw’n colli’r profiad o dynnu popeth at ei gilydd, nid yw’r cyfan wedi’i cholli.”

Er bod Cosi Fan Tutte yn opera poblogaidd ac enwog iawn, oes yna sialens o fewn creu gynhyrchiad heddi?

“Gyda phob opera dwi’n eu gwneud, y cwestiwn mwyaf bwysig dwi’n gofyn i fy hyn yw, Beth yn y darn yma, a oedd wedi’i ysgrifennu 300 o flynyddoedd yn ôl, sy’n medru cyseinio a siarad i ni yn y foment hon?” eglura Martin.
“Un peth sydd ddim wedi newid, ar lefel syml iawn, yw’r perthnasau sydd wedi’i hysgrifennu mewn i’r opera gyda manylion anhygoel a gofal a chariad oddi wrth Mozart a’r librettydd.”

Er hyn, ar lefel fwy, mae’r perthnasau hyn hefyd wedi’i fframio gan y gymdeithas yr ysgrifennwyd ynddynt. Felly, mae’r opera yn profi ei hun i fod yn sialens i’w greu heddi. Mae’r teitl yn ei olygu “Maent i Gyd yn Gwneud Hynny,’ gan gyfeirio at fenywod. Mae’r opera yn agor gyda tri dyn yn dadlau am ffyddlondeb menywod, yn enwedig ffyddlondeb cariadon nhw eu hyn.

I roi ymlaen opera heddi, mae’n rhaid i chi feddwl am ffordd o’i fframio sy’n adlewyrchu y gwerthoedd cyfoes sydd wedi newid dros y 300 mlynedd ers i’r opera cael ei ysgrifennu – diolch byth!

Ar nodyn fwy eang, mae’n rhaid i ni ddarganfod rhesymau eglur i gadw ailadrodd y straeon yma o’r operâu a chafodd eu hysgrifennu cannoedd o flynyddoed yn ôl. Ni allwn parhau i gadarnhau ystradebau a dyfarniadau mae ein cymdeithas gyfoes wedi gadael yn y gorffennol. Ac hefyd, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gadw ymlaen i greu ac ysgrifennu operâu newydd sy’n adlewyrchu’r straeon sy’n bwysig i ni heddiw.”

Draw i Delyth:

“Dechreuon ni weithio ar hyn ar ddechrau’r flwyddyn er mwyn ailddarganfod yr opera ac ail-ddychmygu’r un cynhyrchiad chwe blwyddyn yn ddiweddarach.

Cadwon ni ddyluniad Gabriella, ac fe penderfynon ni i wthio rhai elfennau i ehangu’r syniad ymhellach ar gyfer cynulleidfa a chast newydd.
Roedd y syniad a grëwyd gan Martin a Gabriella yn wreiddiol yn seiliedig ar sioe gêm teledu o’r 70au.”

Fel eglurodd Martin, “Pob wythnos mae aelod gwrywaidd o’r gynulleidfa yn mynd ar lwyfan ac mae yna fet y fydd ei gariad yn anffyddlon erbyn diwedd y dydd.
Yn 2014, y tro diwethaf i ni wneud yr opera yma yn y Coleg, roedd yn dilyn yr achos Saville.

Roedd yr ymchwiliad Yewtree yn barhaus ac yn edrych i fewn i gamdriniad hanesyddol o’r 1970au ac o fewn y diwydiant adloniant, felly roedd yn gwneud synnwyr i osod yr opera yn sioe gêm o’r 1970au gyda Don Alphonso fel y cyflwynydd, a dangos yn eglur bod yr ymddygiad a’r thema yna yn hollol amhriodol, ond efallai bod rhai o hyn dal i fodoli heddi ac archwilio sut rydyn ni’n ei deimlo am hyn.

Mae’r effaith bwysig o’r symudiad #MeToo a’r gamdriniad sydd wedi’i ddadorchuddio a’i dreilau yn dod a hwn i fewn i ffocws fwy clir.
Cawsom hwyl yn dysgu am yr 1970au, ond teimlon ni fel ein bod ni’n delio gyda rhywbeth hynod o bwysig, er natur comedi’r opera.”

Mae Delyth yn parhau, “Mae’r 1970au yn y Dora yn gweithio’n perffaith: gyda’r crolimnau pren a’r tôn oren, mae’n man cychwyn perffaith.

Roedd hyn yn fyd hwylus i ddarganfod oherwydd mae’n eitha bell o steil dylunio fy hun, felly roedd yn sialens mawr i gofleidio’r agwedd eitha cartŵn o’r ddyluniad yma.
Dwi hefyd yn credu’n gryf y dylwn ffeindio ffyrdd newydd a gyffrous i gysylltu gynulleidfa fwy cyfoes gyda opera, a dwi’n meddwl y byddai’r cynhyrchiad yma wedi gwneud yn union hynny.”

Hyfforddiant a Rihyrsals

“Mae’r positif mwyaf wedi bod i weld y daith mawr sydd wedi cymryd rhan gyda’r myfyrwyr – mae’r tîm enfawr o bobl sydd eu hangen i greu opera – o’r reolwyr llwyfan, i’r criw blwyddyn cyntaf sy’n propio, trwy i’r dylunwr golau a’r dylunwr gwisgoedd, yr holl ffordd trwyddo i’r ystafell ymarfer ei hun gyda’r cantorion yn eistedd yng nghanol yr opera,” meddai Martin.

“Mae ein cyfarwyddwyr sy’n hyfforddi ac ein arweinwyr wedi bod yn camu i fewn i f’esgidiau, ac i fewn i esgidiau ein harweinydd, David Jones, i arwain ein ymarferion, mae’r holl beth wedi bod yn weithrediad anferthol.

Fel cyfarwyddwr, dwi’n gweld y dysgu sy’n digwydd trwy’r ymarferion, ac ar y gwahanol teithiau mae’r cantorion yn mynd. Er bod y myfyrwyr efallai ddim yn ei fesur, pan rydych chi’n eistedd yn blaen yr ystafell yn gwylio pob dydd, rydych chi’n gweld eu teithiau creadigol.

Dros y pump wythnos o ymarferion trwm, mae pob un myfyrwr wedi dysgu llawer. Yn ddiolchgar, llwyddon ni i gwblhau rhediad llawn o’r opera wythnos diwethaf, ac roedd yn galonogol i weld y gwaith caled yn dod at ei gilydd.”

Diolch i’r cast am eu gwaith caled ac am eu cefnogaeth, a diolch i Delyth am y ddelweddau.

Am fwy o wybodaeth am ei waith hi, ewch i Delythevans.com. Am fwy o wybodaeth am Ysgol Opera David Seligman, ewch yma.

Straeon Cysylltiedig

http://blog.cbcdc.ac.uk.ezproxy.rwcmd.ac.uk/2019/04/02/enwebiad-gwobr-olivier-ar-gyfer-y-cynllunydd-gabriella-slade/