Yn ôl i brif wefan CBCDC

Rheolaeth yn y Celfyddydau: Lára, Rheolwr Gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ

25 Chwefror 2020

Ffeiliwyd o dan:

Rheolaeth yn y Celfyddydau

Cymerodd Lára Sóley Jóhannsdóttir, a raddiodd mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau, egwyl o’i rôl fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ tra ei bod yng Nghaerdydd ar ei thaith o’r DU i ddod i’n gweld.

Llwyddodd Lára, a raddiodd llynedd, i sicrhau’r swydd uchel ei bri pan oedd yn astudio ar y cwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau.

Roedd wedi astudio’r feiolin yn y Coleg yn wreiddiol, gan raddio yn 2006, ac yna dychwelodd i’w mamwlad, Gwlad yr Iâ, i ddatblygu gyrfa mewn perfformio.
Ond roedd ganddi wastad ddiddordeb mewn rheolaeth y celfyddydau.

“Pan ddechreuais ymchwilio i gyrsiau rheolaeth yn y celfyddydau, sylwais fod gan y cwrs hwn gyfradd cyflogaeth 100%.

Fe fyddai’n rhaid i mi ddod â’m gŵr a’n tri o blant draw yma tra fy mod yn astudio, felly roedd rhaid i mi gael gwybod y byddai’n werth yr ymdrech,” meddai.

“Roeddwn eisoes yn gwybod bod Caerdydd yn ddinas hyfryd, bersonol a chyfeillgar, gyda chymaint o gyfleoedd, ac roedd y Coleg wedi fy nghroesawu fel aelod o’r teulu o’r funud y cyrhaeddais ar gyfer fy nghlyweliad cyntaf, felly roeddwn hefyd yn awyddus i ddychwelyd.”

Lara yn Neuadd Dora Stoutzker

Y Cwrs

“Roedd gen i eisoes rhywfaint o brofiad mewn rheoli artistig a rheoli llinell o ganlyniad i’m gwaith ers graddio,” parhaodd Lára, “ond dysgodd y cwrs hwn bopeth arall i mi: cyllid, marchnata, codi arian.
Byddai pobl o’r diwydiant yn dod i ddarlithio i ni, ac roedd yn ymarferol iawn ac yn flwyddyn ddwys a gwych.
Yn fy swydd newydd mae angen i mi wybod am bob agwedd ar reolaeth yn y celfyddydau, felly gwnaeth y mewnwelediad a gefais drwy’r cwrs cyfan fy mharatoi yn dda.

Cyfnodau ar Leoliad

Lleoliad cyntaf Lára ar y cwrs oedd gyda’r Pennaeth Jazz Paula Gardiner, yn ei helpu i drefnu prosiectau jazz Gilad Hekselman a’r perfformiadau a ddilynodd yng Nghaerdydd a Llundain.
Yna bu’n gweithio gyda Rheolwr Cerddorfaol y Coleg: “Roedd gweld cerddorfa o’r ochr arall yn hytrach na pherfformio ynddi yn ddiddorol iawn.”

Gyda BBC NOW y treuliodd ei lleoliad estynedig olaf, ac oedd yn “rhyfeddol oherwydd erbyn hynny roeddwn i wedi cael y swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ. Roedd aros i gwblhau’r lleoliad cyn symud i Wlad yr Iâ yn werthfawr dros ben gan fy mod yn gallu cael mynediad at yr uwch dîm rheoli yn ogystal â’r rheolwyr cerddorfaol. Roedd fel cwrs ‘Sut i Redeg Cerddorfa!’

Cefais gymaint o brofiad a mewnwelediad tra roeddwn i yno, ac mae pawb yn BBC NOW yn dal i fod mor gefnogol. Yn wir, fe fyddaf yn cael cyfarfodydd gyda nhw tra byddaf yng Nghaerdydd yfory.”

Dim ond un gerddorfa broffesiynol sydd yng Ngwlad yr Iâ felly roedd yn rhaid i mi edrych yn rhywle arall i weld sut i’w rhedeg. Roedd yn wych bod fy lleoliad gyda’r BBC NOW wedi dysgu cymaint i mi.”

Cerddorfa Symffoni Gwlad yr Iâ

A oes gennych chi unrhyw gyngor i’n myfyrwyr?

“Dechreuwch rwydweithio cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ar y cwrs,” meddai Lára. “Mae’r myfyrwyr ar y cwrs yn dod i gysylltiad â chymaint o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant tra’n astudio. Ni fyddent fel arfer yn cael mynediad at gymaint o arbenigwyr mewn un lle, felly manteisiwch i’r eithaf ar hynny!”

“Rwy’n difaru na fyddwn wedi gwneud hynny pan oeddwn yma yn astudio cerddoriaeth.

Roeddwn i’n teimlo hi’n anodd marchnata fy hun, ond erbyn hyn rwy’n marchnata cerddorfa gyfan. Mae angen i chi feddwl am eich hun fel brand a chanolbwyntio ar beth rydych am ei ddweud amdanoch eich hun”

Gal myfyrwyr ddewis arbenigo mewn gwahanol agweddau ar reolaeth yn y celfyddydau tra’n astudio – o gynhyrchu i reoli cerddorfaol a chodi arian i farchnata.

Mae myfyrwyr llynedd wedi mynd ymlaen i ystod eang o swyddi sy’n cynnwys Cydlynydd Artistig a Cherddoriaeth Opera San Jose, California, Cynorthwyydd Cynhyrchu yn Sonia Friedman Productions, Cynorthwyydd Castio gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Rheolwr Marchnata yn Neuadd Dewi Sant a Rheolwr Cymru a’r Gorllewin y Loteri Fawr.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau yma.

Storïau Cysylltiedig