Yn ôl i brif wefan CBCDC

Band Pres CBCDC yn Creu Cyffro yng Nghanada

5 Awst 2014

Ffeiliwyd o dan:

Pres

Y Chwaraewr corn Flugel Rebekah Noons sy’n ysgrifennu am brofiadau Band Pres CBCDC yng Nghanada yn Tatoo Rhyngwladol y Royal Nova Scotia.

Mae gan Tatoo Rhyngwladol y Royal Nova Scotia dair rheol:

  1. Rhoi sioe dda bob amser
  2. Cael amser da bob amser

Os llwyddwch chi gyda’r ddwy reol gyntaf, mae’n rhaid i chi ddychwelyd (dyna’r drydedd rheol)

A byddai Band Pres Coleg Brenhinol Cymru yn sicr am wneud hynny!

Ar 25 Mehefin am 2:30am llusgodd aelodau’r band eu bagiau dillad a’u hofferynnau at fynedfa CBCDC er mwyn mynd ar ein bws i faes awyr London Gatwick a dechrau ein taith i Halifax. Pan gyrhaeddom Canada o’r diwedd fe’n croesawyd gan ein tywyswyr militaraidd a bron ar unwaith roeddem ar ein ffordd i’r rihyrsals cyntaf ar gyfer y tatoo.

Gydag wyth sioe yn y tatoo, dau gyngerdd awr ginio, oriau di-ri o rihyrsals, lansiadau i’r cyfryngau a’r wasg, perfformio yn yr Orymdaith Diwrnod Canada yn ogystal ag eistedd gyda rihyrsals a chyngherddau Ysgol Haf Band Pres Gogledd America (NABBSS), roedd yn waith caled dwys, ond llwyddodd y band i neilltuo amser i ymlacio.

Gyda chynulleidfa o filoedd ar filoedd roedd cyflwyniad yn hollbwysig i’r sioe gyfan a chymrodd ein band ganol y llwyfan yn y ddau ran i’w swyno â Toccata Bach a pherfformiad o’r Can Can! Roedd goleuadau’r llwyfan yn troelli o’n cwmpas, meicroffonau yn cael eu symud o’n blaen, sioeau beic feiciau yn gwibio heibio ac acrobatiaid yn disgwyl gefn llwyfan – roedd yn brofiad rhyfeddol a thrwy gydol yr amser roedd y gynulleidfa yn bloeddio cymeradwyaeth.

Roedd hi’n sioe syfrdanol, ac roedd uchafbwyntiau ein perfformiad yn cynnwys sefyll ar ganol y llwyfan yn edrych dros fand torfol Llynges, Llu Awyr a Byddin Canada wrth i ni berfformio William Tell tra bod Heddlu Marchogol Canada yn gorymdeithio drwy ganol y stadiwm.

Roedd y sioe a oedd yn symud ar garlam yn cynnwys cerddoriaeth, acrobatiaid, bandiau torfol, arddangosfeydd militaraidd, cyflwyniadau hanesyddol a choffau dwys ac emosiynol i arwyr Canada a gollodd eu bywyd mewn rhyfeloedd. Bu’r gynulleidfa yn eu dagrau, yn bloeddio, yn chwerthin, cymeradwyo ac yn dystion i un o’r sioeau mwyaf y mae llawer o aelodau’n band erioed wedi bod yn rhan ynddi.

Roedd yn fraint i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn, i gynrychioli Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a hefyd i gynrychioli’r Deyrnas Unedig.