Yr wythnos hon dathlodd y Coleg ac Opera Cenedlaethol Cymru ddeng mlynedd o bartneriaeth gyda chyfres o gyngherddau yn Neuadd Dora Stoutzker fel rhan o gyfnod preswyl dwywaith y flwyddyn y WNO.
Mae’r cyfnod preswyl yn rhan o berthynas hirdymor gyda’r WNO ac mae’n caniatáu i fyfyrwyr rihyrsio a pherfformio ‘ochr yn ochr’ â cherddorion y WNO, gan chwarae mewn amgylchedd gwaith sy’n adlewyrchu realiti’r diwydiant y maent wedi ei dewis mynd iddo.
Roedd y feiolinydd Jess Townsend (uchod gyda David Adams Blaenwr Cerddorfa’r WNO) yn un o’r myfyrwyr a ddewiswyd i berfformio’r wythnos hon gydag Ensemble Llinynnol y WNO, yn dilyn clyweliadau yn y WNO yn gynharach yn y flwyddyn. Hefyd enillodd hi le a chwenychir ar y cynllun lleoliad proffesiynol, sy’n rhoi mynediad unigryw i fyfyrwyr i rihyrsals agored y WNO, yn cynnwys sitzprobes a rihyrsal gwisgoedd ym mhwll y gerddorfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn ddiweddar bu Jess yn rhan o rihyrsal ar gyfer cynhyrchiad y WNO o ‘Mose in Egitto’, a arweiniwyd gan Carlo Rizzi.
“Golyga’r cynllun lleoliad hwn y gallaf weld drosof fy hun y ffordd y mae cerddorfa’n gweithio a chwarae wrth ochr y chwaraewyr fel aelod cydradd o’r adran, gan wneud y profiad yn un llawer mwy ‘real’ ac ymdrwythol. Yr wyf nawr yn gwybod beth i’w ddisgwyl mewn rihyrsal proffesiynol, sut i ymddwyn ac rwyf hefyd wedi cael cyngor ynglŷn â sut i doddi fy sŵn a’m vibrato gyda’r adran i wneud sain cyffredinol cydlynol.
Mae wedi bod yn gyfle mor wych, ac mae’r cynllun lleoliad mor eang – mae cynhesrwydd a gallu cerddorion y WNO a’u disgwyliadau ohonof fel aelod cydradd o’r adran wedi fy rhoi i mewn safle hyderus a gwybodus ac wedi cadarnhau fy awydd i ddilyn gyrfa yn chwarae mewn cerddorfa.”
Mae’r cydweithrediad gyda’r WNO hefyd yn ymestyn i berfformio opera, repetiteuriaeth, cynllunio golygfeydd, gwisgoedd a rheoli llwyfan.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook