Yn ôl i brif wefan CBCDC

Sally ar y Brig

1 Gorffennaf 2015

Llongyfarchiadau i un o’n graddedigion Theatr Gerdd diweddar, Sally Horton, sydd newydd ennill cystadleuaeth traethawd gyntaf erioed Conservatoire UCAS, ‘Take the Spotlight’. Roedd ei herthygl yn trafod sut y mae hi wedi datblygu’n gerddorol a phersonol, a’r hyn y mae wedi ei ddysgu am ei hun fel perfformiwr yn ystod ei hastudiaethau yma yn CBCDC, a derbyniodd wobr gwerth £2,500.

Dyma beth a gewch mewn Conservatoire yn y DU: Man lle bydd cyfle bob dydd i ganu, safon addysgu sy’n rhagori ar Brifysgol, llwyfan o’r radd flaenaf i berfformio.

Dyma beth a ddysgwch gan Gonservatoire: nad oes yr un perfformiwr yn well na chi, bod y broses yn llawer pwysicach na bod yn seren, a gallwch fynd yn bell gydag ymarfer cyson a dyfalbarhad.

Dyma beth y gallwch ei ddisgwyl gan eich astudiaeth mewn Conservatoire: mae gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn eich maes yn ffrindiau y gallwch sgwrsio â hwy, criw agos o bobl sydd yr un mor angerddol â chi, a’r penderfyniad i’ch gwthio ymhellach nag a dybiwch.

Fe ddewch yn ysgolor a hefyd yn berfformiwr rhagorol, byddwch wedi eich paratoi nid yn unig ar gyfer swyddi addysgu ond hefyd swyddi teithio, llwyfannau o wahanol liw a llun, ar gyfer cynulleidfaoedd sy’n cymeradwyo neu’n rhyfeddu neu’n chwerthin am bethau annisgwyl. Byddwch yn dysgu addasu i bob rhwystr, i drin eich gwaith fel gêm, lle mai camgymeriadau sy’n eich cyffroi, nid y syniad o enwogrwydd.

Gallwch ddarllen traethawd buddugol Sally yn llawn yma.

Sally yn adolygiad Theatr Gerdd CBCDC, ‘The World Goes Round’

Mae’r llun yn dangos Sally yng Nghynhyrchiad CBCDC o Company.