Yn ôl i brif wefan CBCDC

CBCDC yn cyhoeddi mai Struan Leslie yw ei Bennaeth Symud newydd

10 Awst 2021

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi penodi un o brif Gyfarwyddwyr Symud y DU, Struan Leslie, yn Bennaeth Symud newydd.

Mae gan Struan gyfoeth o brofiad amrywiol ac o gydweithio fel cyfarwyddwr, coreograffydd ac artist-athro, ac mae ei benodiad yn adlewyrchu arloesedd ac uchelgais Coleg Brenhinol Cymru i wthio’r ffiniau rhwng y disgyblaethau drama a cherddoriaeth.

Struan Leslie

Drwy gydol ei yrfa mae Struan wedi canolbwyntio ar weithio ar draws disgyblaethau artistig, gan ddathlu amrywiaeth cynhenid dawns.

Mae wedi gweithio gyda rhai o gwmnïau theatr ac opera enwocaf y byd, o Opera Cenedlaethol Cymru i’r RSC, gyda chyfarwyddwyr megis Michael Boyd a Katie Mitchell a cherddorion fel James MacMillan a Cherddorfa Aurora.

Daeth Illuminations, wedi’i ddychmygu a’i gyfarwyddo gan Struan, â cherddoriaeth glasurol a pherfofrmiad syrcas ynghyd i agor Gŵyl Aldeburgh yn 2016

‘Rydym yn ffodus iawn y bydd Struan yn ymuno â CBCDC lle bydd yn rhoi gwedd ffres ar hyfforddiant Symud drwy’r Coleg i gyd,’ meddai Jonathan Munby, Cyfarwyddwr Perfformio Drama. ‘Rwy’n adnabod Struan yn broffesiynol ers nifer o flynyddoedd ac wedi edmygu safon ei waith, ei ymroddiad i’r grefft a’r berthynas gref y mae wedi ei meithrin o fewn y diwydiant.

Mae ei angerdd am y gwaith a’i ymdrech i sicrhau gwirionedd a rhagoriaeth yn ddigyffelyb. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’w groesawu i Gaerdydd ac rwy’n gwybod ein bod yn dechrau pennod newydd gyffrous gydag ef yn y rôl hon.’

Meddai Struan, a oedd yn Bennaeth Symud yn y Royal Shakespeare Company, ‘Rydw i wrth fy modd i gael fy mhenodi’n Bennaeth Symud newydd CBCDC. Mae’r Coleg, yn ei waith a’i uchelgais, wastad wedi bod ar flaen y gad mewn hyfforddi artistiaid sydd yn mynd ymlaen i gyflawni’r lefelau uchaf o berfformio ym meysydd theatr a cherddoriaeth. Rwy’n llawn cyffro i fod yn ymuno â’r tîm yn y Coleg i baratoi’r myfyrwyr ar gyfer y galw cynyddol a roddir ar artistiaid yn yr unfed ganrif ar hugain.

Caf fy nenu at waith Coleg Brenhinol Cymru oherwydd ei fod yn dathlu ei rôl, gan arloesi ym mhob maes cerddoriaeth a drama. Mae’r broses hon o archwilio ffiniau artistig a chanfod tir newydd ar gyfer perfformio yn adlewyrchu fy un i mewn cynyrchiadau ac yn yr ystafell rihyrsal.

Mae’r corff a symud yn eu holl amrywiaeth a’u posibiliadau yn greiddiol i’m hymarfer, waeth beth fo’r genre. Mae’r broses hon yn canolbwyntio ar alluogi a chefnogi pawb sy’n rhan o’r gwaith ac mae wedi bod yn sail ar gyfer fy holl gydweithrediadau ac addysgu dros y 35 o flynyddoedd diwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at ddod i Gaerdydd i barhau â’r gwaith hwn.’

Mae CBCDC wedi ailgynllunio ei raglen gradd Cerddoriaeth BMus uchelgeisiol yn ddiweddar ac mae penodiad Struan yn cyd-fynd â’r dull newydd hwn ar gyfer cydweithredu, gwaith artistig a chymdeithas.

‘Mae Struan yn artist gwirioneddol gydweithredol sydd ddim yn gaeth i ffiniau traddodiadol ac yn un sy’n deall ethos dawn gerddorol, gan gyd-gysylltu pob agwedd ar y disgyblaethau sy’n dod o dan un ymbarél y celfyddydau perfformio,’ meddai’r Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tim Rhys-Evans.

‘Mae ein cwrs gradd Cerddoriaeth newydd yn canolbwyntio ar y cyd-greu a’r amrywiaeth dysgu hwn a bydd Struan yn dod â’r adwaith a’r ysbrydoliaeth a geir dim ond pan fydd y bydoedd hyn yn dod ynghyd, gan greu man diogel a galluogi artistiaid i ffynnu heb gael eu llesteirio gan arbenigedd, lle gallant ganolbwyntio ar eu dychymyg.’

Ymunodd Struan â’r Coleg ym mis Awst.

Nodiadau i Olygyddion

Mae Struan Leslie wedi bod yn creu theatr a pherfformiadau seiliedig ar symud am dros 30 o flynyddoedd mewn dros 300 o gynyrchiadau yn ogystal ag addysgu a dysgu ar y lefel uchaf. Mae hyn yn cynnwys dramâu o gyfnodau hynafol, modern cynnar a chyfoes, syrcas, oratorios, operâu a hefyd ei gynyrchiadau a gweithiau dawns dyfeisiedig ei hun.

Ef oedd Pennaeth Symud cyntaf y Royal Shakespeare Company rhwng 2008 a 2013, yn gyfrifol am symud a choreograffi i gefnogi dros 100 o gynyrchiadau.

Boed hynny fel yr artist blaenllaw, wrth ddyfeisio prosiect neu fel rhan o dîm sy’n creu gwaith, nodir gwaith Struan gan ei natur ‘traws-ddisgyblaethol’ a chydweithredol. Mae edafedd cyffredin hefyd yn rhedeg trwy bob maes o’i waith, sef egwyddorion gwaith corawl ac ensemble. Daw’r prosesau hyn â’i brofiad a’i wybodaeth eang ynghyd ym mhob maes perfformio. Mae elfennau o gynhyrchu theatr yn cyfuno â disgyblaethau eraill, megis cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol, i greu gwaith sy’n benodol, a hynny mewn gwaith dyfeisiedig ac mewn ymateb i repertoire sy’n bodoli’n barod.

Mae wedi cydweithio’n eang â nifer o gyfarwyddwyr. Dros gyfnod o 15 mlynedd roedd yn Gyfarwyddwr Symud a choreograffydd ar tua 35 o gynyrchiadau a gyfarwyddwyd gan Katie Mitchell gan gynnwys cynyrchiadau arloesol o ddrama Groeg Hynafol yn y National Theatre yn ogystal ag Operâu ac Oratorios yn Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd wedi cydweithio â’r cyfarwyddwyr Neil Bartlett, Roxanna Silbert, Michael Boyd, Gregory Doran, Nicholas Hytner, James Dacre, Dominic Hill a Phillip Howard.

Yn ystod y 30 o flynyddoedd diwethaf mae Struan wedi bod yn dyfeisio a chreu gwaith newydd yn gyson – yn amrywio o weithiau unawdol a hunan-berfformir i ddigwyddiadau ar raddfa fawr mewn theatr a phrosiectau safle benodol. Rhan annatod o’i ymarfer yw ei waith fel artist-athro yn arwain gweithdai a dosbarthiadau meistr ar gyfer perfformwyr, actorion, dawnswyr a cherddorion yn y DU a ledled y byd.

Struan yw Cyfarwyddwr Artistig 21CC – Twenty-First Century Chorus y gwnaeth ei ffurfio yn 2014 ar ôl gadael yr RSC. Cwmni theatr dyfeisiedig cyfoes yw hwn sydd wedi’i seilio ar arfer y Côr Groeg Hynafol, gan ddefnyddio ymarfer theatr estynedig yr unfed ganrif ar hugain a’u harchwilio drwy brism cyd-destun hanesyddol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i struanleslie.com

Lluniau:: Daeth Illuminations, wedi’i ddychmygu a’i gyfarwyddo gan Struan, â cherddoriaeth glasurol a pherfofrmiad syrcas ynghyd i agor Gŵyl Aldeburgh yn 2016.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma:

https://www.struanleslie.com/illuminations