Yn ôl i brif wefan CBCDC

CBCDC ymhlith conservatoires gorau Ewrop…

20 Gorffennaf 2022

Rydym mor falch bod y Coleg wedi cael ei alw’n enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd gan adolygiad ansawdd MusiQue.

CBCDC yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i dderbyn lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 gan MusiQue, sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am werthuso safonau rhyngwladol mewn addysg uwch – ac fe wnaethom lwyddo’n orchestol!

https://twitter.com/ColegCerddDrama/status/1527318899762470912

Y 5 peth y mae angen i chi eu gwybod am ansawdd CBCDC

  1. Yn adolygiad ansawdd rhyngwladol MusiQuE, cafodd CBCDC y marciau uchaf.
  2. CBCDC yw’r sefydliad cyntaf yn y DU i gyflawni’r lefel hon o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a rhai Dan 18 oed.
  3. Gwnaeth dull CBCDC o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithredu amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr.
  4. Ar ôl edrych yn fanwl ar bob agwedd ar y Coleg, daeth yr adolygiad i’r casgliad bod CBCDC yn enghraifft wych o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd.
  5. Byddwn yn gwisgo’r bathodyn anrhydedd hwn gyda balchder, fel adlewyrchiad o’r bobl eithriadol a’r gymuned unigryw sydd gennym yn CBCDC.

Abel Selaocoe yn gweithio gyda myfyrwyr Llinynnau yn Neuadd Dora Stoutzker.

Gwnaeth dull y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithredu ar draws adrannau ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, sef tîm proffesiynol o wahanol Gonservatoires ar draws Ewrop.

Orchestradventure yn Neuadd Dewi Sant, yn dathlu pen-blwydd Beethoven yn 250 oed gyda dros 1200 o blant ysgol.

‘Mae ymrwymiad y Coleg i gydweithio – partneriaethau (rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol) a sicrhau’r profiad amlddisgyblaethol gorau o fewn y cwricwlwm – yn arbennig o drawiadol.’ Adolygiad MusiQue

Freedom (March on Selma), rhan o dymor NEWYDD ‘22, wedi’i hysgrifennu gan ein Hawdur Preswyl Roy Williams.

‘Rydym yn gosod y safonau uchaf oll i’n hunain,’ meddai Prifathro CBCDC, Helena Gaunt, ‘ac ysgogir yr hyfforddiant a ddarperir gan ddisgwyliadau rhagoriaeth ym mhob ystyr. Mae’r adolygiad cynhwysfawr hwn ar draws pob elfen o’n gwaith yn dangos bod y Coleg a phawb sy’n rhan ohono yn mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau yn ddyddiol.

‘Byddwn yn gwisgo’r bathodyn anrhydedd hwn gyda balchder, fel adlewyrchiad o’r bobl eithriadol a’r gymuned unigryw sy’n rhan o CBCDC. Ac oherwydd ein bod bob amser yn ymdrechu i fod hyd yn oed yn well, rydym eisoes yn croesawu unrhyw awgrymiadau sydd wedi’u rhannu drwy’r adolygiad hwn.

Byddwn yn parhau i wrando a dysgu wrth i ni adeiladu tuag at yfory cryfach. Diolch i bawb sy’n gwneud y Coleg yn gymuned ydyw.’

Arddangosfa Balance myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio yn arddangos eu gwaith yng Caerdydd a Bargehouse Llundain.

‘Mae tîm yr adolygiad o’r farn bod ymrwymiad y Coleg i brofiad myfyrwyr unigol, ei ymrwymiad i wasanaethu grwpiau a dangynrychiolir ac i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gasgliad hynod werthfawr o nodau.

Roedd yr ymrwymiad hwn yn amlwg i’r tîm yn ei holl … ymwneud â’r Coleg.’ Adolygiad MusiQue.

I ddarllen yr adroddiad yn llawn ewch i wefan MusiQue.