Yn ôl i brif wefan CBCDC

CBCDC yn Penodi’r Cyfarwyddwr Jonathan Munby yn Gyfarwyddwr Perfformio (Drama) Newydd

16 Gorffennaf 2020

‘Mae’n Amser i Gymryd Golwg Radical a Blaengar ar Hyfforddiant Actorion yn yr Unfed Ganrif ar Hugain:’

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn Penodi’r Cyfarwyddwr Jonathan Munby yn Gyfarwyddwr Perfformio (Drama) Newydd

Mae’n bleser gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyhoeddi mai Jonathan Munby yw ei Gyfarwyddwr Perfformio (Drama) newydd. 

Wrth sôn am ei benodiad, meddai Jonathan:

“Rydw i wrth fy modd i fod yn ymgymryd â’r rôl hon yng Ngholeg Brenhinol Cymru, sefydliad yr wyf wedi ei edmygu erioed ac un sydd ag enw da’n rhyngwladol am safon yr artistiaid y mae’n ei gynhyrchu.​

Mae’r byd yn newid ac yn yr un modd y diwydiant. Teimlaf ei bod yn amser i gymryd golwg radical a blaengar ar sut mae hyfforddiant clasurol yn ymateb i’r unfed ganrif ar hugain. Mae angen i ni fod yn ddewr yn ein dewisiadau a gofyn rhai cwestiynau sylfaenol: Sut un yw’r actor clasurol modern? Pa destunau ddylai fod yn barod ar eu cyfer? A pha alwadau newydd sydd arno ef neu hi gan y proffesiwn hwn sy’n esblygu’n gyson? ​

Byddaf yn ceisio agor y drws led y pen a chroesawu doniau o gefndiroedd mor amrywiol â phosibl; rhoi hyfforddiant o’r radd flaenaf i bob myfyriwr sydd mor drylwyr, perthnasol a chyfrifol â phosibl; archwilio gweithiau newydd, anadlu bywyd newydd i’r clasuron a rhoi’r sylw y mae’n ei haeddu i actio ar gyfer y sgrin. Rydw i eisiau adeiladu ar etifeddiaeth ragorol Dave Bond a sicrhau bod ein Coleg yn edrych yn y drych ac yn cofleidio cymhlethdod ein cymdeithas.​

Mae’n fraint i mi ymuno â’r Coleg eithriadol hwn ar adeg mor gyffrous a phwysig mewn hanes.” ​

Mae Jonathan, sy’n adnabyddus am ansawdd ac amrywiaeth ei gastiau a’i dimau creadigol yn ogystal ag am fod yn artist cydweithredol a chynhwysol, yn gyfarwyddwr theatr a edmygir yn rhyngwladol, sydd â phroffil rhagorol yn y DU a thramor ar ôl gweithio yn yr Unol Daleithiau, Japan, Tsiena a De Affrica.

Mae wedi ei gydnabod yn arbennig am ei waith ar destunau Shakespeare ac ystod o destunau clasurol, gyda llwyddiannau nodedig yn cynnwys: Twelfth Night yn Sheffield Crucible, a enillodd y wobr Cynhyrchiad Teithiol Gorau yng Ngwobrau Theatr y DU 2014, Life is a Dream gyda Dominic West yn y Donmar Warehouse, The Merchant of Venice gyda Jonathan Pryce yn Shakespeare’s Globe yn ogystal â thaith byd, ac yn fwyaf diweddar King Lear gyda Syr Ian McKellen yng Ngŵyl Chichester/Theatr Duke of York y West End, a enwebwyd ar gyfer gwobr Adfywiad Gorau yng Ngwobrau Olivier 2019. ​

Ochr yn ochr â chyfoeth o brofiad gyda thestunau clasurol, mae Jonathan wedi casglu ynghyd bortffolio amrywiol o waith, o A Human Being Died That Night gyda Noma Dumezweni yn Theatr Hampstead, i’r adfywiad mawr cyntaf o’r clasur o Sioe Gerdd o Dde Affrica King Kong: Legend of a Boxer yn Cape Town, a drama ryfeddol Bryony Lavery Frozen yn y West End gyda Suranne Jones, Jason Watkins a Nina Sosanya. Mae hefyd wedi datblygu dramâu newydd gydag ysgrifenwyr megis Ella Hickson, Helen Edmundson, Nick Drake a Dennis Kelly.​

Yn ogystal â’i broffil yn y diwydiant, mae gan Jonathan hefyd brofiad sylweddol o addysgu a chyfarwyddo mewn ysgolion drama, ac mae wedi gweithio gydag actorion ym mhob cam o’u hyfforddiant.

Mae penodiad Jonathan hefyd wedi arwain at ddatblygiad cyffrous i CBCDC, sef y cyhoeddiad mai Chinonyerem Odimba, y dramodydd, ysgrifennwr ar gyfer y sgrin a bardd gwobrwyedig o Fryste, fydd Ysgrifennwr Preswyl cyntaf y Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (2020/21). Bydd y rôl hon yn cynnwys comisiwn fel rhan o dymor NEWYDD blynyddol y Coleg, a bydd Chino hefyd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer y prosiectau ysgrifennu unigol ac ymgysylltu myfyrwyr yn natblygiad peth o’r gwaith sydd ganddi ar y gweill.

Chinonyerem Odimba

Wrth gyhoeddi penodiad Jonathan, dywedodd yr Athro Helena Gaunt, Prifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: 

“Rydw i wrth fy modd bod Jonathan wedi ymuno â ni. Mae’n cyrraedd y Coleg gyda dealltwriaeth ddwys o grefft gyfoes actio a disgwyliadau’r diwydiant. Gan ei fod hefyd wedi gweithio’n eang ym myd theatr gerddorol a chyfarwyddo opera, mae hefyd mewn safle da i ymgysylltu â chydweithio gyda’n hadran cerddoriaeth. Rwy’n edrych ymlaen at weld Jonathan yn mynd â gwaith y myfyrwyr y tu hwnt i’r Coleg, i ymgysylltu gyda chymunedau yn genedlaethol a ledled y byd, a gwahodd y gorau ym myd y ddrama i’n llwyfannau.”

Daw penodiad Jonathan ar adeg bwysig i’r Coleg, wrth iddo ganolbwyntio ar ei weledigaeth strategol, gan adeiladu ar etifeddiaeth adran sydd wedi datblygu yn un o brif ddarparwyr hyfforddiant drama yn y DU: gyda llwyddiant cyson fel yr ysgol Ddrama #1 yng nghynghrair Canllaw Prifysgolion y Guardian am nifer o flynyddoedd, a gyda myfyrwyr yn ennill nifer o wobrau mewn cystadlaethau cenedlaethol megis ysgoloriaethau Carleton Hobbs y BBC ac Olivier.​

Dywedodd Syr Ian McKellen, y cyfarwyddwyd ei ‘bortread gwefreiddiol’ (Independent) o King Lear yn ddiweddar gan Jonathan:

“Mae penodiad Jonathan Munby yn un cyffrous, nid dim ond ar gyfer ei fyfyrwyr yng Ngholeg Brenhinol Cymru ond ar gyfer eu cynulleidfaoedd yn y theatr yn y dyfodol.

Yn ogystal ag ysbrydoli actorion ifanc i fabwysiadu ei ddull ar gyfer perfformio, rwy’n gobeithio y bydd yn gallu parhau i gyfarwyddo mewn mannau eraill. Mae’r theatr yn diddanu ar sawl lefel, yn emosiynol a diwylliannol, gallwch weld hyn yng nghynyrchiadau clodfawr Munby.

Wrth i ni ail-ddychmygu’r hyn sy’n bosibl yn theatrau’r DU wedi’r pandemig, mae llawenydd ysgogol unigryw perfformiad byw fel petai’n bwysicach nag erioed.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae Coleg Brenhinol Cymru yn ddoeth i benodi ymarferydd sefydledig yn ganolog i’w addysg ar gyfer pobl ifanc. Mae hwn yn newyddion da a chadarnhaol pan fo’r byd i gyd yn teimlo’n ddiflas.”

Wrth sôn am benodiad Jonathan dywedodd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd:

“Ar lefel broffesiynol, rydw i’n llawn cyffro i glywed bod Jonathan yn ymuno â CBCDC, oherwydd y bartneriaeth sy’n esblygu’n gyson rhwng y Coleg a Theatr Clwyd, ac am y gwaith sy’n digwydd ar draws Cymru ar hyn o bryd i geisio sicrhau ein bod ni fel sector yn fwy cysylltiedig, yn deall mwy am anghenion ein gilydd, ac yn cydweithio mwy nag erioed i greu dyfodol cwbl gynhwysol a llawn ysbrydoliaeth. 

Roedd Jonathan ddwy flynedd yn hŷn na mi yn y brifysgol a phan raddiais rhoddodd arweiniad a chefnogaeth i mi, gan fy nghynorthwyo i gredu y gallwn wneud bywoliaeth ym myd y theatr. Felly, ar lefel bersonol, mae’n fy ngwneud i’n hapus iawn i wybod y bydd cenedlaethau newydd yn cael eu cefnogi yn yr un modd – i wybod y bydd yr artist gwych hwn – y gŵr cynnes a hael – yn helpu i siapio gwneuthurwyr theatr y dyfodol.”

 Bydd Jonathan yn ymuno â’r Coleg ar unwaith.

Nodiadau I Olygyddion

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC), conservatoire cenedlaethol Cymru, yw un o wyth o golegau cerdd a drama Brenhinol yn y DU. Mae ganddo enw da a hanes cydnabyddedig o baratoi artistiaid ifanc dawnus ar gyfer gwaith proffesiynol ym meysydd Actio, Cerddoriaeth, Theatr Gerddorol, Opera, Cynllunio Theatr a Rheoli Llwyfan. Mae bron i 800 o fyfyrwyr, sy’n dod o’r DU ac yn rhyngwladol, yn hyfforddi yn y Coleg yng Nghaerdydd bob blwyddyn a bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i weithio ar y lefel uchaf ym meysydd cerddoriaeth, theatr, ffilm a theledu ledled y byd.

Mae rhaglen hyfforddiant Drama’r Coleg wedi’i henwi fel yr orau yn y DU bedair gwaith ers 2013 yng Nghanllaw Prifysgolion Guardian. Mae ei fyfyrwyr hefyd yn enillwyr rheolaidd Gwobrau Bwrsariaeth Carleton Hobbs y BBC, gyda Cecilia Appiah a Luke Nunn yn ychwanegu at y cyfanswm rhyfeddol o enillwyr eleni. 

Chinonyerem Odimba

Dramodydd, ysgrifennwr ar gyfer y sgrin a bardd sydd wedi’i lleoli ym Mryste yw Chinonyerem Odimba y mae ei gwaith wedi cael ei gynhyrchu ledled y DU. Mae ei phrosiectau mwy diweddar yn cynnwys Princess and The Hustler (Bristol Old Vic), Seven Ages of Patience (Theatr Kiln), Unknown Rivers (Theatr Hampstead), The Prince and the Pauper (Theatr Watermill). Mae Chino hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y Radio, A Nightingale’s Call (BBC Radio 4), ac ar gyfer y teledu, Adulting (Channel 4). Mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau yn cynnwys Gwobr Ysgrifennu Dramâu Bruntwood, ac yn 2018 enillodd Wobr Ysgrifennu Dramâu Channel 4. Ar hyn o bryd mae ar gyfnod cyswllt gyda’r National Theatre

DIWEDD