Yn ôl i brif wefan CBCDC

CBCDC yw Conservatoire Steinway yn Unig Cyntaf y Byd

9 Medi 2020

Cyrhaeddodd casgliad o 24 piano Steinway Gyfan newydd sbon Gyntedd Carne Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fore heddiw i berfformio gwaith newydd o’r enw 24 Pianos.

Roedd y digwyddiad yn dathlu statws newydd y Coleg fel Conservatoire Steinway yn Unig cyntaf y Byd, trwy greu fflyd o bianos Steinway Gyfan o’r radd flaenaf.

Mae’r darn a ysgrifennwyd yn arbennig gan Julia Plaut, cyfansoddwr ôl-radd yn CBCDC, ac a berfformiwyd gan 24 o bianyddion o blith myfyrwyr y Conservatoire Iau, myfyrwyr, graddedigion a staff. Trwy ddefnyddio darnau o’r gân werin lawen Gymreig, Clychau Aberdyfi,  dathlodd y perfformiad y bartneriaeth gyda Steinway, gwychder y piano a’i botensial cydweithredol.

Mae’r casgliad newydd, sy’n cynnwys saith piano cyngerdd Steinway – piano cyngerdd model D Steinway, pedwar piano cyngerdd AS Steinway, a dau biano cyngerdd Spirio – yn mynd â phartneriaeth Steinway/CBCDC i’r lefel uchaf. Gyda phob piano acwstig yn y Coleg nawr yn rhai Steinway, bydd pob myfyriwr yn elwa gan yr offerynnau o’r radd flaenaf hyn, yn ogystal â bod y cyhoedd yn cael gweld a chlywed rhai o’r artistiaid ar ymweliad gorau yn y byd drwy’r rhaglen perfformio creadigol barhaus.

Y Coleg yw’r cyntaf hefyd i groesawu technoleg Spirio flaengar Steinway, arloesedd a fydd yn galluogi’r Coleg i gynnal dosbarthiadau, perfformiadau a chlyweliadau o bell, a gwella cyfleoedd allgymorth a rhwydweithiau ledled Cymru ac ar draws y byd.

Mae’r cam newydd hwn o bartneriaeth barhaus Steinway/CBCDC yn galluogi’r Coleg i feddwl mewn modd creadigol newydd ym mhob maes o gerddoriaeth ac yn cadarnhau ymrwymiad cynyddol y Coleg i gyfleoedd, hygyrchedd a rhagoriaeth mewn addysg cerddoriaeth, wedi’i hyrwyddo a’i gefnogi gan Steinway a Sefydliad Mosawi.

‘Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, mae strategaeth barhaus y Coleg yn gweithio i roi mynediad at ragoriaeth greadigol, arfer a defnydd arloesol, a phrofiadau addysgol ymdrwythol, ar gyfer ein myfyrwyr, partneriaid a’r gymuned yn ehangach,’ meddai’r Prifathro Helena Gaunt.

‘’Mae dod yn Gonservatoire Steinway yn Unig yn ein helpu i greu cylch oes cynaliadwy ar gyfer cerddoriaeth, gyda chyfleoedd i ddatblygu partneriaethau, cynhwysiant ac amrywiaeth, tra’n gwella ein safle yn y byd clasurol.’

Wrth wneud sylwadau am y potensial ar gyfer prosiectau allgymorth a grëir yn y cam newydd hwn o’r bartneriaeth, meddai Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC Tim Rhys-Evans, “Rydym yn credu’n angerddol y dylai pob plentyn gael yr hawl i gael mynediad at gyfleoedd astudio yn ein Conservatoire os oes ganddynt y gallu, y ddawn a’r dymuniad i wneud hynny.

Pan fydd plentyn yn dod i astudio yn ein Conservatoire Iau, neu pan fydd myfyriwr yn cyrraedd ar gyfer blynyddoedd o hyfforddiant yn y Coleg hŷn, byddant yn gwybod nad oes unrhyw gefndir yn rhwystr i ragoriaeth; maent yn haeddu gallu cael mynediad at y gorau oll, a dyna’n union a geir gan Steinway.”

‘Am ddegawdau rydym wedi ymfalchïo’n fawr yn ein cysylltiad agos â Choleg Brenhinol Cymru a’i ymrwymiad rhagorol i’w fyfyrwyr,” meddai Craig Terry, Rheolwr Gyfarwyddwr Steinway & Sons UK.

‘Mae penderfyniad y Coleg i ddod yn arweinydd byd o ran ei ddarpariaeth piano drwy ddod yn Goleg Steinway yn Unig yn nodi dechrau lefel newydd o ddisgwyliad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o fyfyrwyr cerddoriaeth, ac uchelgais y Coleg i ddarparu rhagoriaeth greadigol ar lefel ryngwladol.’

Bydd Partneriaeth Steinway hefyd yn cyfrannu at raglen allgymorth helaeth y Coleg ledled Cymru gyda chefnogaeth i gyfres Dosbarth Meistr Artist Steinway y Coleg. Gan estyn allan at bianyddion ifanc dawnus lleol, bydd hyn yn cryfhau cysylltiadau’r Coleg gydag addysgwyr cerddoriaeth rhanbarthol, tra hefyd yn cyflwyno myfyrwyr newydd ac ysgolion i’r Coleg a Steinway.

Ochr yn ochr â hyn fe fydd ysgoloriaeth Steinway newydd ar gyfer myfyrwyr piano, a chyfleoedd ar gyfer datganiadau i ysgolorion Steinway yn Neuadd Steinway, lleoliadau rhyngwladol Steinway a chylchdaith yng Nghymru.

Ysbrydolir a hysbysir digwyddiadau allgymorth a chymunedol gan Raglen Greadigol CBCDC, gan ddechrau gyda datganiad Lluniau mewn Oriel gan Llŷr Williams ym mis Hydref i nodi siwrnai’r Coleg o’r gwaith dewis i’r perfformiad cyhoeddus cyntaf.

Caiff y bartneriaeth Steinway newydd ei lansio’n swyddogol ym Mhenwythnos Mawr y Coleg, 23-25 Hydref, a fydd yn cynnwys ystod eang o weithgareddau arloesol i ymgysylltu, cefnogi ac ysbrydoli pianyddion a cherddorion ar bob lefel. Bydd y penwythnos hwn hefyd yn adeiladu ar gysylltiadau’r Coleg gyda’r gymuned yn lleol ac yn ehangach.

Derbyniwyd a pherfformiwyd ar y pianos ar ddydd Mercher 9 Medi gan gadw at amodau Covid a reoleiddiwyd yn ofalus.

Nodiadau i Olygyddion:

Daeth y Coleg yn Gonservatoire Steinway Gyfan cyntaf y DU yn 2009. Mae stocrestr pianos ‘Steinway yn Unig’ yn cynrychioli’r terfyn uchaf o’r hyn y gellir ei gyflawni o fewn rhaglen Ysgolion Steinway Gyfan. Mae ‘Steinway yn Unig’ yn golygu bod pob piano acwstig yn y Coleg neu’r ysgol yn un Steinway er mwyn helpu pob myfyriwr i gyflawni ei lawn botensial fel cerddor.

Mae’r cludiad newydd yn dod â 24 piano Steinway newydd i’r Coleg;

  • Piano cyngerdd newydd arall er mwyn gallu cynnig dau biano cyngerdd yn y lleoliad perfformio
  • Un piano cyngerdd “B” Steinway ‘Spirio r’ a fydd yn galluogi dysgu gydag ymbellhau, clyweliadau a dosbarthiadau meistr rhyngwladol o bell
  • Un piano cyngerdd O Steinway ‘Spirio’ er mwyn galluogi ailchwarae cyfeiliant yn awtomataidd
  • Pedwar piano cyngerdd AS Steinway er mwyn ehangu mynediad at bianos cyngerdd
  • 17 piano talsyth Steinway er mwyn sicrhau bod yr holl ymarfer a chyfeilio yn digwydd ar biano Steinway

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Conservatoire Cenedlaethol Cymru, a rhan o Grŵp Prifysgol De Cymru, yn gweithredu o fewn ei grŵp cymheiriaid rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydau arbenigol. Mae’n hyfforddi artistiaid ifanc a ddaw o tua 30 o wledydd er mwyn darparu llif cyson o ddoniau newydd i’r diwydiannau cerddoriaeth a theatr a phroffesiynau cysylltiedig. Yn 2020 daeth y Coleg yn ‘Gonservatoire Steinway yn Unig’ cyntaf Ewrop, gan dderbyn 24 piano Steinway ychwanegol er mwyn creu fflyd o bianos Steinway Gyfan o’r radd flaenaf.

www.rwcmd.ac.uk

Steinway & Sons

  • Mae dros 98% o bianyddion cyngerdd gweithiol y byd – dros 1,500 o artistiaid – yn defnyddio’r teitl ‘Artist Steinway’. Mae pob un yn berchen ar ei biano Steinway ei hun ac yn dewis chwarae ar ddim ond Steinway
  • Derbyniodd nifer o’r artistiaid hyn eu hyfforddiant cerddorol ar bianos Steinway. Hwn yw’r offeryn o ddewis yn ysgolion cerddoriaeth mwyaf clodfawr y byd, gan gynnwys Juilliard, Coleg Oberlin a Phrifysgol Yale
  • Yn ogystal â bod yn offeryn cerddorol rhagorol, mae’r Steinway yn ddigon cadarn i gynnal blynyddoedd o ddefnydd dwys ‘gyda gosgeiddrwydd’
  • Mae Steinway wedi bod yn gosod safon y byd ar gyfer ansawdd pianos am 165 o flynyddoedd a heddiw mae Steinway & Sons yn saernïo tua 3,000 o bianos y flwyddyn ledled y byd

www.Steinway.com