Yn ôl i brif wefan CBCDC

Theatr Gerdd: Wynebau Newydd ar Gyfer 2014

16 Ionawr 2014

Ffeiliwyd o dan:

Theatr Gerddorol

Mae’r Coleg yn croesawu grŵp newydd o fyfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglen MA mewn Theatr Gerdd yr wythnos hon. Dim ond y pedwerydd diwrnod ydyw ac maent eisoes wedi cael eu gwers gyntaf mewn jazz, tap, gwaith byrfyfyr a llais.

Ymhlith y myfyrwyr newydd mae Luke McCall, y dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Sefydliad Andrew Lloyd Webber ac Alice Jarvis a dderbyniodd wobr Sefydliad Mackintosh.

Luke, a astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, yw’r myfyriwr gwryw cyntaf i dderbyn ysgoloriaeth Sefydliad Andrew Lloyd Webber yn CBCDC. “Mae derbyn y wobr hon yn rhoi hwb enfawr i’m hyder. Roedd yn gyfle rhyfeddol i ganu o flaen dau o asiantau castio mwyaf y West End [David Grindrod ar gyfer Andrew Lloyd Webber a Trevor Jackson ar gyfer Cameron Mackintosh] – y clyweliad anoddaf fydd rhaid i mi ei wynebu fyth – ac rydw i wedi ei wneud yn barod!”

Cyn hyn astudiodd Alice Hanes Celfyddyd, Eidaleg a Saesneg ym Mhrifysgol Caerlŷr: “Ddywedais i ddim wrth unrhyw un fy mod yn cael clyweliad ar gyfer y cwrs gan nad oeddwn yn disgwyl fy nerbyn iddo. Mae derbyn Ysgoloriaeth Sefydliad Mackintosh wedi helpu fy hyder. Mae pawb yma mor dda ac mae gan bawb faes y maent yn disgleirio ynddo felly mae’r wobr wedi fy helpu i deimlo fy mod yn aelod dilys o’r dosbarth.”

“Fe es i weld Rent, sioe olaf myfyrwyr llynedd, ychydig cyn y Nadolig a chefais fraw pan welais pa mor wych oedden nhw i gyd. Doeddwn i ddim yn gallu gweld sut yn y byd y gallwn i gyrraedd yr un safon mewn dim ond blwyddyn. Ond ar ôl yr wythnos gyntaf hon gallaf weld sut mae’n digwydd – rydym wedi gwneud cymaint yn barod.”

A sut deimlad oedd hi i gwrdd â’r myfyrwyr eraill am y tro cyntaf?

“Rydym eisoes wedi gorfod perfformio o flaen y dosbarth i helpu i chwalu unrhyw rwystrau a chael gwared ar y nerfau,” meddai Luke. “Dechreuodd un o’r myfyrwyr grŵp Facebook fel ein bod yn gallu cysylltu cyn i ni ddod, felly nid oedd yn teimlo fel petaem yn cwrdd â dieithriaid llwyr ar y diwrnod cyntaf. Rydym yn mynd i weithio gyda’n gilydd mor agor dros y flwyddyn nesaf ac yn gwneud cymaint o waith ensemble, mae’r hollbwysig i ni ddod i adnabod ein gilydd ac ymddiried yn ein gilydd yn gyflym fel na fyddwn yn poeni am wneud camgymeriadau o fewn y grŵp.”

Y cyfle cyntaf i weld y myfyrwyr newydd mewn perfformiad cyhoeddus fydd mewn cynhyrchiad cabaret ym mis Gorffennaf.