Yn ôl i brif wefan CBCDC

Luke yn Enillydd Gwobr Theatr Gerdd

5 Mehefin 2014

Ffeiliwyd o dan:

Theatr Gerddorol

Cafodd y myfyriwr MA mewn Theatr Gerdd, Luke McCall o’r Bala, ei enwi’n Ganwr Ifanc Theatr Gerdd y Flwyddyn Cymdeithas Adeiladu’r Principality 2014. Enillodd Luke – deiliad presennol Ysgoloriaeth Sefydliad Andrew Lloyd Webber – rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe.

Meddai Luke: “Roedd yn brofiad gwahanol iawn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, gan na fydda’i fel arfer yn cystadlu. Mae’r hyfforddiant yn y Coleg yn helpu llawer gydag elfennau fel hyder ar gyfer perfformiadau a gyda thechneg, a bydd hynny’n gwneud i’r perfformiad edrych a swnio’n well. Roeddwn i’n hapus i glywed fy mod wedi ennill, ac i weld bod gan y beirniaid hyder ynof i.”

Ychwanegodd Vivian Care, Arweinydd Cwrs MA mewn Theatr Gerdd: “Rydym wedi gwirioni i glywed newyddion diweddaraf Luke; mae hyn yn dystiolaeth bellach o’i dalent sy’n datblygu a’i waith caled ar y Cwrs MA mewn Theatr Gerdd. Rydym wrth ein bodd i gael gŵr ifanc mor dalentog yn cyflawni cymaint yn ystod ei astudiaethau yma, ac edrychwn ymlaen at weld ei yrfa’n datblygu.”

Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth yn cynnwys Connie Fisher, Hayley Gallivan, Kit Orton a’r enillydd Gwobr Olivier – a chyn-fyfyriwr CBCDC – David Thaxton.