Yn ôl i brif wefan CBCDC

NEWYDD 2015: Rhagolwg Cyflym

24 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Creodd Tymor NEWYDD y llynedd gyffro ym myd y theatr, gyda phedair drama newydd sbon gan awduron a chyfarwyddwyr sy’n dod i’r amlwg yn cael eu perfformio yng Nghaerdydd a Llundain gan ein Cwmni Richard Burton.

Bu un o ddramâu llynedd, Pomona – a ysgrifennwyd gan Alistair McDowell a’i chyfarwyddo gan Ned Bennett – yn hynod lwyddiannus gyda throsglwyddiad i’r Orange Tree a’r newyddion yr wythnos ddiwethaf y bydd yn cael ei llwyfannu yn y National Theatre a’r Royal Exchange yr hydref hwn.

Felly, beth am fynd i weld y pedair drama newydd sbon nesaf wrth i NEWYDD 2015 ddod i CBCDC a The Gate. Ni wyddoch beth y byddwch ei ddarganfod.

Dyma rai o ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr eleni yn siarad am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan dymor NEWYDD 2015.