Yn ôl i brif wefan CBCDC

Actorion yn Dysgu Dril y Gwarchodlu Cymreig

25 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Rhoddwyd actorion CBCDC ar brawf gan Uwch-ringyll wrth iddynt baratoi i berfformio mewn cyngerdd arbennig i ddathlu 100 mlynedd y Gwarchodlu Cymreig.

Cyfarwyddwyd y cyngerdd, a gynhaliwyd yn CBCDC, gan yr ymwelydd a’r cydweithiwr rheolaidd Bruce Guthrie.

Cynrychiolodd y myfyrwyr actio ail flwyddyn George Naylor, Connor Vickery, Ross Foley, Jack Hammett a Rhys Whomsley un milwr yr un o wahanol gyfnodau drwy gydol 100 mlynedd y Gwarchodlu Cymreig gan berfformio cymysgedd o farddoniaeth a chân ochr yn ochr ag Ensemble Pres CBCDC a Band y Gwarchodlu Cymreig.

Gyda phersonél uchel eu swyddi o’r fyddin yn y gynulleidfa roedd hi’n hanfodol bod yr actorion yn perfformio’r driliau ac yn gorymdeithio gyda’r lefel uchaf o gywirdeb. Cafodd yr actorion y sesiynau dril y tu allan i’r Coleg yn y tywyllwch gan yr Uwch-ringyll Steven Boika, a oedd yn aelod o’r gatrawd ac sydd wedi gwasanaethu gyda’r Gwarchodlu yn Affganistan.

Ar gyfer ei rôl fel Prif Swyddog, roedd gwaith paratoi’r actor Connor Vickery yn cynnwys darllen Llawlyfr y Swyddogion 2014 a gwylio Newid y Gwarchodlu. Meddai:

“Roedd y sioe yn brofiad brawychus iawn gan fod Neuadd Dora Stoutzker yn orlawn ac roeddech yn ymwybodol, wrth edrych allan, bod y bobl oedd yno yn gwybod pob ffaith a phob gorchymyn yr oeddech yn eu dweud. Byddai’n debyg iawn i lwyfannu Hamlet gyda’r RSC yn y gynulleidfa. Gwnaethom daith fer o amgylch y byrddau a chwrdd â rhai o arwyr fy mhlentyndod a rhai cyn-filwyr profiadol a oedd yn hael iawn eu canmoliaeth. Clywsom hanesion anhygoel ac rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael y cyfle i fod yn rhan ohono.”

 

Dywedodd Ross Foley:

“Cawsom adborth gwir gadarnhaol gan y Gwarchodlu – gyda llawer ohonynt yn dweud eu bod yn meddwl ein bod ni wir yn y Gwarchodlu Cymreig gan fod ein Dril mor dda. Roedd hyn yn ganmoliaeth aruthrol i ni ac i Steve am ein hyfforddi. Roeddent fel pe baent wedi mwynhau’r noson ac yn eithriadol ddiolchgar i ni am fod yn rhan o berfformiad y Canmlwyddiant.”