Rydym yn dathlu newyddion gwych yr wythnos hon – mae’r Coleg wedi ei henwi’r brîf goleg drama yn y DU am yr ail waith mewn tair blynedd yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian.
“Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i ymroddiad ac ymrwymiad staff a myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru,” meddai’r Prifathro Hilary Boulding. “Ein nod yw darparu’r hyfforddiant o’r ansawdd gorau mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf fel y gall yr artistiaid a’r ymarferwyr sy’n graddio o’r Coleg lwyddo yn y diwydiant celfyddydau byd-eang. Rydym yn hynod falch bod y gwaith hwn yn cael ei gydnabod yn y tablau hyn.”
Cafodd y “carfan euraidd o sêr Cymreig”, sy’n gynnwys lawer o raddedigion CBCDC diweddar, ei chanmol yn ddiweddar gan The Observer. Gallwch ddarllen mwy am y stori hon yn The Stage a hefyd yn nodwedd y Western Mail.
Cafodd hyfforddiant cerddoriaeth y Coleg hefyd ei gydnabod yn y categori cerddoriaeth ar gyfer cyflogaeth graddedigion, gan sgorio’n uwch nag unrhyw brifysgol neu gonservatoire arall o ran canran y graddedigion sy’n cael swyddi ar lefel graddedig, neu sy’n dilyn astudiaethau pellach, o fewn chwe mis i raddio.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook