Bob blwyddyn bydd ein myfyrwyr Cynllunio ar gyfer Perfformio sy’n graddio yn arddangos eu doniau rhyfeddol yn y Coleg ac yn y Bargehouse yn Llundain.
Eleni oedd un o’r arddangosfeydd Balance mwyaf erioed, gyda dros 40 yn arddangos eu gwaith.
“Mae Balance yn dathlu’r adeg pan fydd y rhai sy’n arddangos yn camu i mewn i’r diwydiant,” meddai’r Cyfarwyddwr Drama Sean Crowley.
“Mae’n gyfle i gyflogwyr gwrdd â’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr Cynllunio.
Gyda’r myfyrwyr BA yn cael canlyniad eu gradd y diwrnod wedi i ni agor yn Llundain mae’n nodi cwblhad eu hyfforddiant, gan arddangos rhwng y National Theatre a’r Tate Modern yng nghanol Llundain.”
Yn amrywio o luniadau cysyniad i bropiau theatr go iawn, mae Balance 2019 yn arddangos y gwaith gorau gan y genhedlaeth nesaf o gynllunwyr theatr i weithwyr proffesiynol y diwydiant, gan gynnig cyfleoedd rhwydweithio gwych ac yn llwyfan i lansio gyrfaoedd newydd ein graddedigion.
https://www.instagram.com/p/BzKthGWnsgv/?utm_source=ig_embed
Mae curadu’r arddangosfa bob amser yn gydweithrediad anferth rhwng ein holl fyfyrwyr Cynllunio, a oedd yn gyfrifol am drefnu ac adeiladu Balance yn y Coleg ac yn Llundain.
https://www.instagram.com/p/Byxh2ERn2Ya/
Dyma Clare Marie Johnson yn disgrifio sut y daeth gweithio ar Balance â chyfleoedd rhwydweithio a chyfle i siarad am ei gwaith gyda’r diwydiant, a sut y datblygodd hyn ei gwytnwch:
“Dysgais sut i weithio mewn grŵp a sut i ymdopi â gwahanol bersonoliaethau a pheidio â bod ofn plymio i mewn i dasg nad oeddwn i wedi ei gwneud o’r blaen.
Rydw i wedi deall os oes angen i rywbeth ddigwydd y bydd yn digwydd, ac i beidio â phoeni. Roeddwn i hefyd wrth fy modd gyda’r hyn roeddwn i’n ei arddangos ac yn falch i siarad amdano gyda phobl y tu hwnt i’r Coleg.”
Ar ôl graddio bydd Clare yn mynd ar leoliad gwaith gydag un o gyn-raddedigion eraill y Coleg, y pypedwr Max Humphries, ar ôl i’w phyped o gath ddal sylw Max yn Balance. Mae Clare hefyd wedi gwerthu ei phaentiad cyntaf yn yr arddangosfa.
Edrychwch ar ein horiel cyfryngau cymdeithasol isod sy’n adrodd hanes Balance 2019.
https://www.instagram.com/p/Byr7ks6H2ma/
https://www.instagram.com/p/BvY0HVhn08D/
https://www.instagram.com/p/BynmXBsHoLx/
Gallwch ddarganfod mwy am Balance yma ac am ein cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio yma.
Storïau Cysylltiedig
http://blog.cbcdc.ac.uk/2019/02/16/enwebiad-gwobr-olivier-ar-gyfer-y-cynllunydd-gabriella-slade/
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook