Yn ôl i brif wefan CBCDC

Chwech o raddedigion CBCDC yn y Rownd Derfynol Gwobr Linbury 2019

27 Awst 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Unwaith eto mae graddedigion CBCDC yn flaenllaw yng nghystadleuaeth Gwobr Linbury, gyda’r Coleg yn gyfrifol am hanner y rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn 2019.

Byddant yn ymuno â chwech arall i weithio gyda phedwar cwmni cynhyrchu: Harry Pizzey gyda Birminghan Royal Ballet, Rose Revitt, Elin Steele a Debbie Duru gyda Leeds Playhouse a TK Hay ac Aline Jeffery yn Theatr Octagon yn Bolton.

Caiff eu gwaith ei arddangos yn y National Theatre ym mis Rhagfyr pan fydd pedwar ohonynt yn ennill comisiwn, un gyda phob cwmni, er mwyn gwireddu eu cynlluniau, ac yna dyfernir un yn brif enillydd y wobr.

Maent yn ymuno â rhestr drawiadol o myfyrwyr CBCDC sydd eisioes wedi cyrraedd y rownd derfynol neu ennill y wobr dwyflynyddol, gan gynnwys Fin Redshaw, Jean Chan, Rhys Jarman, Tom Scutt, Madeleine Girling, Camilla Clarke, Max Jones ac Adam Wiltshire.

Dyma flas o’r hyn y bu’r cynllunwyr yn ei wneud dros y tymhorau diwethaf:

Harry Pizzey oedd y cynllunydd gwisgoedd a set ar gyfer perfformiad yr haf o’r opera gomedi The Gondoliers yn Theatr Sherman.

https://www.instagram.com/p/By3J1FNBjvC/?utm_source=ig_web_copy_link

Cynlluniodd Rose Revitt y set a’r gwisgoedd ar gyfer The Wolves, a berfformiwyd yn y Coleg a Theatr Clwyd y tymor diwethaf.

Gan dderbyn canmoliaeth gan The Guardian, cafodd gwaith cynllunio set a gwisgoedd Elin Steele ar gyfer Woof gydnabyddiaeth yn genedlaethol.

Mae Debbie Duru wedi creu gwisgoedd a setiau ar gyfer amrywiaeth o sioeau, gan gynnwys Hamlet Shakespeare yn Theatr Bute, a’n cynhyrchiad o Company yn Theatr Sherman.

Mae TK Hay wedi cynhyrchu gwaith yn y Deyrnas Unedig a thramor, yn fwyaf diweddar gyda’i gynllun trawiadol ar gyfer The Hunchback of Notre Dame yn Theatr Richard Burton.

https://www.instagram.com/p/Bzf9f_PBlIf/?utm_source=ig_web_copy_link

Gan ddod â naws America y 1930au i Theatr Burton, cynlluniodd Aline Jeffery y set ar gyfer All My Sons, un o’r nifer o gynlluniau gan raddedigion a arddangoswyd yn arddangosfa Balance yng Nghaerdydd a Llundain eleni.

https://www.instagram.com/p/Byxh2ERn2Ya/?utm_source=ig_web_copy_link

Rydym yn edrych ymlaen at weld eu cynlluniau ar ddiwedd y flwyddyn.

Storïau cysylltiedig

Balance 2019: Camu i Mewn i’r Diwydiant