Yn ôl i brif wefan CBCDC

Pum Rheswm Dal i Fwynhau NEWYDD:2020

25 Mawrth 2020

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Er ei bod hi’n adeg NEWYDD o’r flwyddyn, yn anffodus am resymau amlwg, ni allwn ni rhoi ymlaen ein cynhyrchiadau i gynulleidfaoedd y flwyddyn yma.

Gweithiodd ein myfyrwyr mor galed ar y sioeau yma, ac wythnos diwethaf, pan dorron ni’r newyddion bod y perfformiadau wedi’u canslo, daethon nhw at eu gilydd, fel chwaraewyr tîm bendigedig a chreadigol, a rhoi ymlaen gŵyl byfyryr bach i rannu gyda gymaint o ffrindiau a chydweithwyr â oedd yn bosib.

Rydyn ni dal eisiau dathlu NEWYDD:2020, felly bant â ni!

Mae ein gŵyl ysgrifennu NEWYDD flynyddol yn dod â Chwmni Richard Burton y Coleg ynghyd gyda phedwar ysgrifennwr sy’n dod i’r amlwg, a rhai o’r cyfarwyddwyr mwyaf cyffrous yn y DU i gyflwyno pedair drama newydd sbon.

https://www.instagram.com/p/B8rCqLbASTQ/

https://www.instagram.com/p/B9_Wy57Du_E/?igshid=1o9qzlbq1x76l

Felly beth sydd mor arbennig am NEWYDD, a pham ydyn ni mor drist eich bod wedi’i cholli?

Moon Licks. Lluniau: Mark Douet

1. Gwaith Newydd

Ers i’r Coleg lansio ei fenter NEWYDD arloesol saith mlynedd yn ôl, rydym wedi cynhyrchu 28 o ddramâu newydd, heriol, ysgogol ac uchelgeisiol ar gyfer tymor NEWYDD yn unig. Dyma eich cyfle i weld rhywbeth gwahanol nasgwelwyd erioed o’r blaen, a fydd yn gwneud i chi feddwl am faterion cyfoes mewn ffordd newydd.

“Mae’r Coleg hefyd wedi bod yn rym creadigol, gan gomisiynu gwaith newydd yn Gymraeg a Saesneg dros y 15 mlynedd diwethaf, ac rydym yn falch i fod yn gwneud cyfraniad mor bwysig i’r diwydiant y bydd y myfyrwyr yn mynd iddo yn y dyfodol agos,” meddai’r Cyfarwyddwr Perfformio Dave Bond.

Ymarfer Ripples. Llun: Simon Gough

2. Cydweithredu

Mae cydweithredu a phartneriaeth yn ganolog i lwyddiant parhaus yr ŵyl hon, yn ogystal â bod yn hollbwysig i bopeth a wna’r Coleg.

Meddai Dave Bond eto: “Mae’r tymor NEWYDD wedi dod yn rhan annatod o’r hyn y ceisiwn ei fod fel Coleg,”

“Mae’n grymuso ein myfyrwyr sy’n actorion, technegwyr a chynllunwyr i fod yn artistiaid creadigol, gan feithrin eu gallu ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Daw’r ystafell rihyrsio yn ofod cydweithredol lle mae’r actorion a’r cynllunwyr yn bwydo i’r broses greadigol, gan weithio gyda’r ysgrifenwyr a’r cyfarwyddwyr i greu’r ddrama derfynol.

Ymarfer Half Full. Llun: Simon Gough

Meddai Debbie Hannan, cyfarwyddwr After Rhinoceros: The Red Pill, “Mae’r actorion wedi rhoi mewnbwn mawr iawn i’r ddrama, ac aethpwyd ar daith enfawr yn ystod y rihyrsals: Mae grŵp eleni yn barod eu barn ac yn wleidyddol graff. Maent yn meddwl fel dramodwyr ac yn adroddwyr stori. Mae hynny’n rhan o’r hyn a anogir yn y Coleg hwn. Yn ogystal â meithrin gallu technegol rhoddir pwyslais cryf ar adnabod eich hun fel artist.”

Cydweithrediad arall yw ein partneriaethau gyda theatrau sy’n flaenllaw mewn hyrwyddo ysgrifennu newydd. Bydd y cydweithredwyr hirdymor Paines Plough, Theatr Royal Court, Theatr y Sherman, a Theatr y Gate yn gweithio gyda ni i ganfod rhai o’r dramodwyr sefydledig a newydd mwyaf cyffrous yn ogystal â chyfarwyddwyr gwych er mwyn iddynt ddod i mewn a chreu gyda’n myfyrwyr.

Ymarfer Half Full

3. Gweld Doniau Creadigol y Dyfodol

Mae ein graddedigion dawnus i’w gweld ym mhobman yn y diwydiant, yn amrywio o’r llu o gynllunwyr a rheolwyr llwyfan ar His Dark Materials (30 ar y cyfrif diwethaf) neu’r actorion sydd i’w gweld ar y sgriniau ffilm a theledu, ac ar lwyfannau ledled y byd. Tra ein bod ni i gyd yn gwylio llwyth o bethau ar hyn o bryd, mae’n bosib iawn y byddwch chi’n darganfod Thalissa Teixeira yn Trigonometry ar BBC 2, gweld Anthony Boyle yng nghyfres newydd HBO David Simon HBO, The Plot Against America, neu’n ceisio gweithio allan pwy nad yw’r cyn-fyfyriwr yng nghyfres gyffrous  S4C Bang

Ymhlith y nifer o actorion dawnus y gallwch eu gweld yng nghynyrchiadau NEWYDD eleni mae Callum Scott Howells sydd eisoes wedi treulio tymor yn ffilmio un o’r prif rolau yn y gyfres Boys gan Russell T Davies a ddarlledir ar C4 yn ddiweddarach eleni.

Yn syth wedi gorffen NEWYDD ym mis Ebrill yr oedd i fod i ymuno â’i gyd-actor blwyddyn olaf Garyn Williams yn y National Theatre yn ystod ein tymor haf. Roedd Callum i chwarae rhan Romeo yn Romeo and Julie gan Gary Owen, wedi’i gyfarwyddo gan Rachel O’Riordan, ac roedd Garyn i fod yn The Corn is Green gyda Nicola Walker, a gyfarwyddir gan Dominic Cooke. Gobeithiwn all hwn cael ei aildrefnu.

‘After Rhinoceros: The Red Pill’

4. Archwilio Materion Cyfoes

Mae NEWYDD yn golygu newydd. Gan ei fod yn ysgrifennu newydd sbon gall ymateb i’r materion mwyaf cyfoes. Gall y rhain yn aml fod yn heriol ac ysgogol tra’n aml yn croesawu’r doniol, ac weithiau’r swreal.

Ymarfer Ripples. Llun: Simon Gough

Nid yw casgliad eleni o ddramâu yn wahanol (byddem wedi awgrymu mynd i weld The Red Pill: After the Rhinoceros ar gyfer enghraifft o’r swreal!) gan eu bod yn dadansoddi’r byd modern, sut mae’n torri, ond sut y gellir hefyd ei roi yn ôl at ei gilydd unwaith eto.

Dyma’r cyfarwyddwr Matthew Holmquist yn siarad am y broses o greu Ripples: “Rwy’n cofio Tracy (yr ysgrifenwr) yn dweud wrthyf pan ddechreuom y broses ei bod yn teimlo ein bod yn byw mewn byd toredig ar hyn o bryd ac rwy’n cytuno gant y cant â hi. Deilliodd y ddrama o hynny oherwydd ein bod eisiau archwilio sut yr ydym ni fel cymdeithas yn dysgu byw yn yr hyn a deimlwn ni sy’n fyd toredig.”

5. Premiere Lleol

O dan amgylchiadau arferol, cewch gyfle i weld y perfformiadau yn y Coleg gyntaf! Bydd holl berfformiadau NEWYDD yn cael eu perfformiadau premiere yng Nghaerdydd cyn symud i Theatr y Gate ar gyfer eu cyfnod preswyl yn Llundain.

Yn aml bydd y dramâu yn mynd ymlaen i gael bywydau eraill wedi’r ŵyl: aeth y ddrama Pomona gan Alistair McDowall, a gyfarwyddwyd gan Ned Bennett, mewn partneriaeth â’r Royal Court, ymlaen i berfformio yn yr Orange Tree cyn symud i’r Royal Exchange a’r National Theatre.

Anifeiliaid

Ymarfer Moon Licks

Dyma fonws byddai hyn wedi bod! A wnaethon ni hefyd sôn bod digon o rhinosorosiaid (yn After Rhinoceros: The Red Pill – mae’r cliw yn y teitl), ac os nad yw hynny’n ddigon, mae gennym hefyd bobl yn bod yn anifeiliaid yn Moon Licks?!Rihyrsals ar gyfer Moon Licks Cewch ragor o wybodaeth am ddramâu eleni yma:

After Rhinoceros: The Red Pill
Gan Nessah Muthy, addaswyd o RHINOCEROS gan Eugene IonescoCyfarwyddir gan Debbie Hannan (isod), mewn cydweithrediad â Theatr y Gate

Nid yw Nicky, myfyriwr ar grwydr, yn gwybod beth yw gwirionedd mwyach? Nid oes dim yn teimlo’n real – heblaw, o bosibl, y Rhinoseros!?

Ripples

Ysgrifennwyd gan Tracy Harris
Cyfarwyddir gan Matthew Holmquist (isod), mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman.

Mewn canolfan adsefydlu lle cynhelir sesiynau grŵp ym Mhen-y-bont ar Ogwr gorfodir wyth o bobl i ddod ynghyd a wynebu, ail-fyw ac ail-greu trawma eu gorffennol.

Moon Licks
Ysgrifennwyd gan Charlotte Josephine
Cyfarwyddir gan Hannah Hauer-King (isod), mewn cydweithrediad â Paines Plough

Bodau dynol anifeilaidd neu anifeiliaid dynol, a wnaethon ni anghofio mai natur sy’n rheoli?

Half Full gan Yasmin Joseph

Cyfarwyddir gan Milli Bhatia, mewn cydweithrediad â Theatr Royal Court

Byd sy’n dirywio, cracio a diferu gyda’n profiadau lu. Daw silffoedd archfarchnadoedd yn fyw, eu cynnyrch yn mynnu cael eu clywed. Mae byrddau ledled y wlad yn sigo dan bwysau ein gofodau ymddiddan sy’n crebachu. Rydym yn archwilio grym bwyd, ei allu i’n dwyn ynghyd a sut y mae’r hyn rydym yn ei fwyta yn effeithio ar ein dynoliaeth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein actorion flwyddyn olaf yma.

Ac ewch i’n gwefan i darganfod mwy am ein cyrsiau Actio, Rheoli Llwyfan a Chynllunio ar gyfer Perfformio.

Mae NEWYDD 2020 wedi’i gefnogi gan Sean Mathias a’r Spielman Charitable Trust.

Storïau Cysylltiedig

His Dark Materials: #GwnaedYngNghymru