Yn ôl i brif wefan CBCDC

His Dark Materials: #GwnaedYngNghymru

12 Tachwedd 2019

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Cynllunio a Chynhyrchu
Cynllunio ar gyfer Perfformio

Mae’r BBC wedi lansio ei gyfres deledu fwyaf uchelgeisiol hyd yma. Ac fe’i Gwnaed yng Nghymru.

Wedi’i chynhyrchu gan Bad Wolf, mae’r gyfres His Dark Materials wedi bod yn llwyddiant gyda’r beirniaid. Mae llu o raddedigion a myfyrwyr ar leoliad CBCDC wedi bod yn gweithio ar yr addasiad gwych hwn, o actio i gynllunio cynhyrchiad, o greu effeithiau creaduriaid i leoliadau – 29 ar y cyfrif diwethaf!

Roedd James North, a raddiodd mewn Cynllunio, yn Gyfarwyddwr Celf Goruchwyliol ar y gyfres gyntaf:

“Mae gan y Coleg berthynas wych gyda Bad Wolf a bydd myfyrwyr yn dod yma ar leoliad gwaith yn rheolaidd, sy’n aml yn arwain at gyflogaeth llawn amser pan fyddant yn graddio.
Mae’n amser rhyfeddol i fod yn astudio yng Nghaerdydd gan fod cymaint o gyfleoedd creadigol ar garreg eich drws. Mae’r diwydiant teledu yn ffynnu yma a gall myfyrwyr weld eu hunain yn creu gyrfa sylweddol yn syth o’r Coleg.”

Mae’r ail gyfres eisoes yn cael ei ffilmio yma, ac mae nifer o raddedigion wedi mynd yn syth o’u profiad gwaith Coleg ar gyfres un i fod yn rhan o’r tîm creadigol sy’n gweithio ar yr ail gyfres.

Treuliodd Rosalind Mather, a raddiodd mewn Cynllunio, gyfnod ar leoliad gyda Bad Wolf yn ystod ei blwyddyn olaf yn CBCDC yn 2017. Yna aeth yn syth i gyflogaeth ar dymor un His Dark Materials ac ers hynny mae wedi gweithio fel Cynorthwyydd yr Adran Gelf ar un o sioeau eraill Bad Wolf, A Discovery of Witches.

“Alla’i ddim diolch digon i’r Coleg am roi’r cyfle i mi weithio gyda chwmni cynhyrchu teledu mor rhyfeddol sydd wedi’i leoli yma yng Nghaerdydd.

Cyfarwyddwr Drama’r Coleg Sean Crowley oedd yr un a wnaeth hyn i gyd i ddigwydd drwy fy rhoi mewn cysylltiad â James a hefyd Screen Alliance Wales. Heb hynny ni fyddwn lle rydw i heddiw, wedi gweithio ar ddwy sioe i Bad Wolf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ers gadael CBCDC, ochr yn ochr â James a’i dîm gwych.”

Menter ar y cyd rhwng Bad Wolf a rhiant-sefydliad y Coleg, Prifysgol De Cymru, yw Screen Alliance Wales (SAW). Gan weithredu fel porth rhwng y diwydiant a’i weithlu, mae’n cynnig lleoliadau gwaith ar gyfer swyddi dan hyfforddiant gyda thâl ar sioeau a gynhyrchir ledled Cymru.

Mae swyddog addysg a hyfforddiant SAW Sarah O’Keefe hefyd yn un o raddedigion y Coleg, gan iddi astudio ei MA mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio yma.

Mae’r Cynllunydd Cynhyrchu ac enillydd BAFTA, a Chynhyrchydd Gweithredol ar gyfer Bad Wolf, Joel Collins yn cyflogi ac yn gweithio gyda nifer o’r graddedigion, gan ddod â rhai, megis y cyfarwyddwr celf cynorthwyol a raddiodd o CBCDC Hattie Gent, gydag ef o’i gyfnod fel cynllunydd cynhyrchu ar Black Mirror.

“Mae diwydiant teledu enfawr yn dod i’r amlwg yng Nghymru, sy’n cydnabod y sêm gyfoethog o dalent sydd yma, a daw hynny drwy’r Coleg.
Rydym wedi cael graddedigion cwbl wych: Mae’r criw yn anhygoel ac mae ganddynt annibyniaeth greadigol a safbwyntiau beirniadol, sy’n hollbwysig ar gyfer unrhyw yrfa ym myd teledu.

Unwaith fod hynny gennych gallwch fynd â’ch llwybr gyrfa i le bynnag y mynnwch.”

“Mae gan His Dark Materials o bosibl y gwaith saethu mwyaf cymhleth y gallech ei ddychmygu fell rydym angen graddedigion sydd wedi’u hyfforddi i ymdopi â’r lefel honno o gymhlethdod,” meddai Joel.

“Mae graddedigion fel Eleri Lloyd, a ymunodd â ni fel cynorthwyydd yr adran gelf yn Nhymor Un nawr yn gweithio ar Dymor Dau fel Cyfarwyddwr Celf Wrth Gefn.

Golyga ei hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Cymru ei bod yn wych am ymateb i her fel honno.”

Mae gan Bad Wolf, sydd newydd ei enwi y ‘busnes sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru’, safle parhaol yng Nghaerdydd, gydag ystafelloedd golygu yn ogystal â stiwdios cynhyrchu, gan greu sioeau fel Discovery Of Witches ac Industry, a gynhyrchir yn weithredol gan Lena Dunham, a oedd hefyd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r rhaglen beilot.

Fel y dywed cyd-sylfaenydd Bad Wolf Jane Tranter, ‘Mae’n rhan o ymrwymiad angenrheidiol i Gymru.”

Mae His Dark Materials hefyd yn serennu Lin-Manuel Miranda, a alwodd heibio i weld ein myfyrwyr tra roedd yn ffilmio yng Nghaerdydd llynedd.

Dysgwch ragor am ein cyrsiau Cynllunio ar gyfer Perfformio a Rheoli Llwyfan.

Related Stories

Enwebiad BAFTA Cymru i’r Cynllunydd Cynhyrchu James North

PrynhawnD, Lin Manuel-Miranda!