Llongyfarchiadau mawr i’r myfyriwr MA Actio George Watkins, sy’n un o enillwyr Gwobr Bwrsariaeth Carleton Hobbs y BBC eleni.
Enillodd George gytundeb pum mis gyda Chwmni Drama Radio’r BBC, lle bydd yn gweithio gyda rhai o actorion ac ysgrifenwyr gorau’r DU ar ystod o ddramâu clasurol a chyfoes ar gyfer Radio 3, Radio 4 a 4 Extra, yn ogystal â’r World Service.
Enillodd yr Actor BA blwyddyn olaf Tom Forrister wobr hefyd – roedd yn rownd olaf y gystadleuaeth ac fe gaiff ei gastio yn un o gynyrchiadau’r Cwmni Drama Radio yn ddiweddarach eleni.
Excited for Carlton Hobbs competition today in London. pic.twitter.com/FzKXfWLVL8
— Tom Forrister (@TJForrister) March 2, 2015
Bydd tua 80 myfyriwr o 20 ysgol drama achrededig y DU yn cystadlu bob blwyddyn am y wobr o fri. Mae gan y coleg enw da iawn yn y gystadleuaeth gyda 10 enillydd blaenorol a naw yn cyrraedd y rowndiau terfynol, yn cynnwys Will Howard a Katherine Pearce yn 2012, Arthur Hughes a Wilf Scolding yn 2013, a Sam Rix yn 2014 – pob un wedi ei hyfforddi gan Marilyn Le Conte, Uwch Ddarlithydd Actio. Meddai Marliyn:
“Mae Gwobr Carleton Hobbs wedi bod ers tro yn ffon fesur i asesu pa ysgolion drama sy’n ffynnu a gwn bod ein hanes o lwyddiant yn cryfhau ymhellach enw da CBCDC.”
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook