Yn ôl i brif wefan CBCDC

Ensemble Chwyth yn Cystadlu ym Mrwydr y Bandiau

2 Awst 2014

Ffeiliwyd o dan:

Chwythbrennau

Cyrhaeddodd ensemble o’r Adran Chwythbrennau rownd derfynol cystadleuaeth gyntaf Band Cymru yr haf hwn. Roedd Chwyth Siambr ymhlith y 12 band a gyrhaeddodd y rownd derfynol i gystadlu am y wobr gwerth £10,000.

Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys tri arbenigwr: yr unawdydd Tiwba o Norwy, Øystein Baadsvik; Barry Forgie, sy’n adnabyddus am ei waith gyda Band Mawr y BBC; a’r chwaraewr trymped o Gymru, Gareth Small.

Roedd tri band arall o’r Coleg – Pres Symffonig, Band Mawr Teddy Smith a Band Clwb Rygbi James Clark – hefyd ymhlith y 12 a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Band Cory – Pencampwyr Ewrop a band pres preswyl CBCDC aeth â hi yn y rownd derfynol.