Yn ôl i brif wefan CBCDC

Pres Symffonig yn Cyrraedd Rownd Derfynol ar y Teledu

28 Awst 2014

Ffeiliwyd o dan:

Pres

Cyrhaeddodd ensemble o’r Adran Pres rownd derfynol cystadleuaeth gyntaf Band Cymru yr haf hwn. Roedd Pres Symffonig ymhlith y 12 band a gyrhaeddodd y rownd derfynol i gystadlu am y wobr gwerth £10,000.

Cewch wybod mwy am y band yn y fideo hwn gan S4C, a ddarlledodd y gystadleuaeth.

Gallwch hefyd wylio perfformiad Pres Symffonig yn y rownd derfynol fyw.

Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys tri arbenigwr: yr unawdydd Tiwba o Norwy, Øystein Baadsvik; Barry Forgie, sy’n adnabyddus am ei waith gyda Band Mawr y BBC; a’r chwaraewr trymped o Gymru, Gareth Small.

Roedd tri band arall o’r Coleg – Chwyth Siambr, Band Mawr Teddy Smith a Band Clwb Rygbi James Clark – hefyd ymhlith y 12 a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Band Cory – Pencampwyr Ewrop a band pres preswyl CBCDC aeth â hi yn y rownd derfynol.