Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi bod Luke McCall – a raddiodd o’r cwrs MA Theatr Gerdd yn gynharach eleni – wedi ei gastio yn Les Miserables yn y West End.
Mae Luke yn chwarae rhan Feuilly, a bydd hefyd yn dirprwyo ar gyfer dwy rôl; Enjolras, arweinydd y Baricadau, a’r brif rôl enwog – Jean Valjean.
— Les Misérables (@lesmisofficial) May 11, 2015
Tra yn CBCDC dyfarnwyd ysgoloriaeth Sefydliad Lloyd Webber i Luke ac fe’i coronwyd yn Ganwr Ifanc y Flwyddyn Theatr Gerdd Cymru.
Mae Luke yn rihyrsio ar hyn o bryd a bydd yn ymuno â’r cast yn y Queen’s Theatre ar 15 Mehefin.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook