Yn ôl i brif wefan CBCDC

Sophie yn Serennu mewn Sioe Un Fenyw

5 Mai 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Gan ein bod newydd orffen ein tymor NEWYDD o ddramâu yma yn CBCDC mae’r fyfyrwraig raddedig Sophie Melville ar fin ymddangos mewn drama newydd y mae disgwyl mawr amdani.

Bydd Sophie yn chwarae rhan Effie yn Iphigenia in Splott, drama un fenyw gan y dramodydd Gary Owen, a gomisiynwyd hefyd i ysgrifennu dwy o ddramâu yn ein tymhorau ysgrifennu NEWYDD yn 2014 a 2015 (Ring Ring a Spring Awakening).

Cawsom air â Sophie ynglŷn ag ysgrifennu newydd yn ystod y rihyrsals yn Sherman Cymru.

Sioe un fenyw yw Iphigenia in Splott – sut deimlad ydyw i gael eich castio mewn drama lle mai chi yw’r perfformiad cyfan?

Mae’n gyfle rhyfeddol ac mae’n teimlo’n hollol wahanol i unrhyw beth yr ydw i wedi’i wneud erioed. Mae’n broses ddwys iawn sy’n gofyn am fath o egni gwahanol, mwy sylfaenol. Rydw i’n ei fwynhau’n fawr.

A ydych chi’n gweithio’n agos gyda’r ysgrifennwr yn ystod y broses rihyrsio?

Roedd Gary gyda ni ar gyfer yr wythnos gyntaf. Roedd hyn yn ddefnyddiol dros ben gan y gallai ddweud wrthym beth yn union yr oedd yn ei feddwl pan oedd yn ysgrifennu, a’r effaith y mae am i’w eiriau eu cael ar y gynulleidfa. Mae hyn wedi llywio’r dewisiadau cyflwyno sydd gennyf ac wedi helpu gyda’r amrywiad sydd yn fy mherfformiad.

Y darn diwethaf wnaethoch chi weithio arno gyda Sherman Cymru oedd Romeo & Juliet. Allwch chi ddweud ychydig wrthym am y gwahaniaethau rhwng gweithio ar ddramâu clasurol ac ysgrifennu newydd.

Gyda dramâu clasuron mae gan bawb syniad o sut ddylai’r cymeriad fod, felly gyda Juliet y frwydr oedd ei gwneud hi’n ffres, ei gwneud hi yn fy Juliet i ac nid rhyw fath o Juliet yr ydym yn credu ein bod yn ei hadnabod. Gydag ysgrifennu newydd – yn arbennig yn yr achos hwn – fi yw’r person cyntaf i chwarae’r rhan hon, felly nid yw’r pryder ei fod yn mynd i fod yr un peth ag un rhywun arall yn bodoli.

Rwy’n credu mai’r her bob amser yw priodi’r farddoniaeth gyda gwirionedd y testun. Ceir temtasiwn i ofidio’n ormodol am farddoniaeth Shakespeare ac esgeuluso’r gwirionedd, ond hefyd gallwn esgeuluso’r farddoniaeth a’r ddrama mewn ysgrifennu newydd, oherwydd os yw’n gyfoes rydym eisiau ei daflu i ffwrdd mewn ffordd sgyrsiol.

Beth yw eich barn am ein tymor NEWYDD fel menter i gael actorion sy’n dod i’r amlwg i weithio gyda chyfarwyddwyr ac ysgrifenwyr sy’n dechrau ennill eu plwyf ar ddramâu newydd?

Rwy’n credu ei fod mor gyffrous ac yn ffordd wych i ddysgu am sut mae ysgrifenwyr yn gweithio, a fydd yn eich helpu chi fel actor i feddwl o gyfeiriad gwahanol. Rydw i wedi dysgu cymaint wrth weithio gyda Gary. Mae gan ei waith strwythur penodol iawn ac os gwnewch chi ei ddilyn yn fanwl, bydd yn eich hebrwng i’r lle y mae angen i chi fod er mwyn i’r stori weithio.