Yn ôl i brif wefan CBCDC

Tim Routledge: O’r Spice Girls i Stormzy

24 Medi 2019

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu
Rheoli Llwyfan

Ers graddio o CBCDC ym 1996 mae Tim Routledge wedi goleuo’r byd gyda sioeau rhyfeddol ar gyfer sêr mwyaf y byd cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd, o’r X Factor ar ITV i Beyoncé.

Fodd bynnag, roedd 2019 yn uchafbwynt newydd: nid yn unig y cafodd ei benodi’n Athro Cadair Rhyngwladol Hodge mewn Rheoli Llwyfan cyntaf y Coleg, ac ennill gwobr Cynllunydd Goleuo y Flwyddyn am yr eildro…

Creodd hefyd sioeau a oedd yn torri tir newydd ar gyfer y Spice Girls yn Wembley a pherfformiad hanesyddol ac anhygoel Stormzy yn Glastonbury:

Roedd y sioe hon, y cafodd Tim a’i dîm ond awr i’w hadeiladu rhwng setiau yn Glastonbury, yn llwyddiant ysgubol.

Gan ddefnyddio dull gwahanol i lwyfannu’r set gerddoriaeth arferol, roedd yn adrodd stori drwy gydol y perfformiad, gyda’r holl heriau theatraidd a ddaw gyda hyn.

Enillodd Tim un o’i ddwy Wobr Knight Of Illumination am sioe Stormzy yr wythnos ddiwethaf.

Roedd y llall am sioe Psychodrama y rapiwr a’r enillydd Gwobr Mercury, Dave, yn Brixton Academy.

https://www.instagram.com/p/BxAmr2dJhWO/?utm_source=ig_embed

Rhaid cofio hefyd am daith y Spice Girls yn gynharach yn y flwyddyn….

https://www.instagram.com/p/BxtyUBcnUW3/?utm_source=ig_embed

Wedi gwylio’r Spice Girls ei hun yn Wembley yn ôl ym 1998, ni fyddai Tim wedi dychmygu y byddai’n gyfrifol am oleuo taith stadia 2019, a oedd yn cynnwys y rig goleuo mwyaf iddo erioed ei gynllunio.

Cafodd gyfle yn ogystal i weithio gyda’r cynllunydd setiau Gabriella Slade, sydd hefyd yn un o raddedigion y Coleg.

Dau o raddedigion CBCDC y dod yn un… Tim Routledge a gyfarwyddodd y goleuo a Gabriella Slade oedd yn arwain y gwaith cynllunio llwyfan.

“Byddaf bob amser yn seilio fy nghynlluniau ar sut rydw i am oleuo’r artist yn gyntaf.

Felly ar gyfer y Spice Girls, roedd y cyfan yn ymwneud â steil a pherffeithrwydd mewn goleuo allweddol, ac ar gyfer Stormzy roedd yn ymwneud ag e’n bod yn ffigur cerfluniol gyda theimlad gwahanol iawn… Fe aethom â De Llundain i fferm.”

Tim Routledge, yn sgwrsio ag NME.

Yn y gorffennol mae Tim wedi goleuo Gemau Olympaidd Beijing, Gemau’r Gymanwlad a llu o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth.

Bydd yn dychwelyd i’r Coleg i gyflwyno prosiectau gyda’n myfyrwyr dros y flwyddyn nesaf.

Geri ‘Ginger Spice’ Halliwell yn perfformio ar daith Spice World 2019 yn Wembley.

Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau Rheoli Llwyfan yma.

Storïau cysylltiedig

Dewch i gwrdd â’n Hathro Cadair Rhyngwladol mewn Rheoli Llwyfan: Tim Routledge

Dwy Wobr Goleuo i Raddedigion

Sêr Rhyngwladol yn Ymuno â Dosbarth 2013