Mae Stiwdio Actorion Ifanc Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu ei blwyddyn gyntaf yn Sir Benfro, ac mae’n cynnig gweithdai am ddim ar 26 Awst yng Ngholeg Penfro.
Bu’n flwyddyn gyntaf gyffrous ar gyfer y gangen newydd hon o raglen hyfforddiant arbenigol CBCDC, gyda pherfformiadau brenhinol, gwobrau i fyfyrwyr a staff, ac actorion ifanc yn mynd ymlaen i rai o ysgolion drama gorau’r DU.
Mae’r gweithdai, a arweinir gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ac a gynigir i fyfyrwyr rhwng 16 a 20 oed, yn rhoi blas go iawn i fyfyrwyr ar y math o ddosbarthiadau actio a gynigir gan brif ysgol ddrama y DU (Guardian 2015) ac maent yn cynnwys gwaith Byrfyfyrio ac Actio i’r Camera. Maent hefyd yn codi ymwybyddiaeth o glyweliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, a gynhelir ar 9 Medi. Gall myfyrwyr hefyd ddewis mynychu Gweithdai Theatr mynediad agored.
Am ragor o fanylion am y gweithdai a’r clyweliadau cliciwch yma.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook